Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2005-06-19

Gwneud da gyda chanlyniadau ddim cweit cystal

Hywel Williams AS ac Elfyn Llwyd AS ym mar coffi'r Caban, AberystwythDiwrnod o feddwl am wasanaeth bore Sul oedd dydd Sadwrn i bob pwrpas. Bues i mas yn gynnar i gael coffi gydag Elwyn a WD ac yna i'r farchnad i brynu llysiau a ffrwythau. Bues i'n paratoi'r taflenni wedyn ar gyfer y gwasanaeth. Gwasanaeth i bobol o bob oed (=teuluol) ac mae'n Sul y Tadau felly'r thema fydd Duw fel Tad. Ond mae'n rhaid argraffu taflen o emynau a chaneuon ar gyfer y gwasanaeth ynghyd â chyhoeddiadau. Roedd cyfarfod o gyngor cenedlaethol Plaid Cymru yn y dref ac roedd pawb wedi mynd i hwnnw. Ddiwedd y prynhawn fe fues i 'nôl yn Caban yng nghwmni DJP ac RO. Ond yn fwy diddorol pwy arall oedd yno yr un pryd ond arweinydd plaid seneddol Plaid Cymru ac aelod seneddol Caernarfon - Elfyn Llwyd a Hywel Williams.

Ystafelloedd te y Cambrian, Rhodfa'r Môr, AberystwythGyda'r nos cael sgwrs gyda DML am beth hyn a pheth arall cyn codi'n gynnar i roi sglein ar anerchiad y bore. Aeth hynny'n iawn. Ond fe wnes i ddiffodd fy ffôn ar gyfer y gwasanaeth - gweithred dda - ond fe fu canlyniadau ddim cweit cystal oherwydd imi wneud hynny. Wedi'r gwasanaeth gyda WD i gael coffi yn Ystafelloedd Te y Cambrian ac er i Dr HW fy ffonio doeddwn i ddim wedi clywed ei alwad. Roedd colli ei alwad yntau yn ofid, ond nid dyna'r diwedd pethau o bell ffordd.

Capel Ebeneser, PenparcauNage wir, fe aeth pethau o ddrwg i waeth. Ddydd Iau roeddwn i wedi addo i TA y byddwn yn pregethu yng nghapel Ebeneser Penparcau - ac fel mae TA yn gwybod dwi byth yn dweud 'na' wrth Ebeneser, Penparcau, - ond oherwydd gofid am y cyflwyniad yn y bore a darllen yn y nos fe aeth yr addewid allan o'm meddwl yn llwyr. Felly a finnau newydd orffen fy mhwdin dyma alwad yn dod oddi wrth SE i ddweud fod TA yn chwilio amdanaf! Ond roedd yn rhaid i SE ddweud yn gywir pam cyn imi gofio am fy addewid. Yn ôl i'r ty ar unwaith - newid fy nghrys ac argraffu pregeth oddi ar fy nghronfa bersonol. Roedd TA yno i roi lifft imi ac o fewn pum munud roeddem yn Ebeneser. 10 munud yn hwyr. Roeddwn yn dawel fy meddwl ynglyn â'u hymateb hwy oherwydd eu bod yn bobol llawn cariad ac yn gwbl ddi-ffws am bethau.