Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2005-06-03

Y daith i Fflandrys - dydd Mawrth (42)

Helo Lloegr! Ta ta bag!

Gorsaf Euston, LlundainDim ond awr a deugain munud o Lille i Lundain, ac wedi taith o hanner awr ar y tanddaearol, roedd y pedwar ohonom yng ngorsaf Euston yn disgwyl y trên yn ôl i Birmingham a Chymru. Roedd digon o amser gennym felly fe aethon ni i'r Britannia Pub i gael rhywbeth i'w fwyta a'i yfed. Roedd hi'n flynyddoedd ers imi fod yn y lle hwnnw, ond roedd yn llai myglyd nag yr oeddwn yn ei gofio ac roedd digon o le i eistedd yno. Fe aethom i eistedd ar y balconi er mwyn edrych lawr dros yr holl fynd a dod oedd yn yr orsaf. Roedd gennym rhyw ddwy awr i aros, felly digon o amser i gael cinio ac wedyn dal y tren am ryw 2.40pm er mwyn cyrraedd 'nôl yn Aberystwyth erbyn rhyw 7.30pm. Felly dyma archebu bwyd. Fe archebais i basti cyw iâr gyda sglodio a phys.

Y pryd cyntaf ar ddaear Prydain, Euston, LlundainOnd tra roeddwn i'n bwyta fy mwyd gan edrych ymlaen i gyrraedd adref yn Aberystwyth a dechrau darllen fy meibl Iseldireg a brynais yn Ieper, roedd gan bobl eraill syniadau gwahanol iawn. Wedi gorffen cinio aeth RO a DML am dro gan adael fi a Dr HW yn siarad. Daeth DML ac RO yn eu holau ac roedd wedi troi dau o'r gloch ac yn amser inni ddechrau symud i fynd at y trên. Es i i'r tŷ bach ac erbyn imi ddod yn ôl roedd pawb wedi casglu eu pethau ynghyd ac yn disgwyl amdanaf gyda'r cês llwyd, ond nid y bag du. Es i yn ôl i'r balconi, ond doedd dim sôn am y bag du fan'ny. Roedd wedi diflannu, roedd rhywun wedi mynd ag ef. Ceisio peidio â chynhyrfu gormod. Gofyn wrth y bar - dim sôn amdano. Dechrau ofni'r gwaethaf ei fod wedi cael ei ddwyn ac yn gwybod ei fod wedi cael ei ddwyn eiliad yn ddiweddarach. "Peidiwch â phanico!"