Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2005-06-03

Diwrnod bant

Banc LloydsTSB, AberystwythDwi'n gwybod fy mod wedi cael gwyliau gŵyl y banc ddechrau'r wythnos, ond roeddwn yn teimlo fel cymryd heddiw bant er mwyn gwneud rhai pethau o gwmpas y tŷ a cheisio storto y peth hyn a'r peth arall. Un o'r pethau roeddwn i am ei wneud oedd sicrhau talu am y cwrs Iseldireg dwi newydd gofrestru i'w ddilyn o dan nawdd Adran Addysg y Gymuned Fflemaidd yn Fflandrys. Roedd yn rhaid talu €65 am y cwrs ac i dalu roedd yn rhaid imi fynd i'r banc, LloydsTSB yn fy achos i. Mae'r cwrs yn un astudio ar eich ben eich hun yw e ond yr hyn sy'n ei wneud yn arbennig yw eich bod yn cael mentor i farcio'ch gwaith a helpu gyda chwestiynnau fel rhan o'r ffi gofrestru yn ychwanegol at yr holl ddeunyddiau. Ar ddiwedd y cwrs fe gewch dystysgrif i ddweud eich bod wedi dilyn y cwrs - ond nid yw'n gymhwyster swyddogol! Y peth arall sy'n ei wneud yn arbennig yw ei fod yn gwrs Iseldireg wedi'i seilio yn Fflandrys ac ar arferion a chymdeithas yno, yn hytrach nag Amsterdam a'r Iseldiroedd fel pob cwrs arall dwi wedi'i weld. Dwi'n disgwyl fy mhecyn o fewn pythefnos.