Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2005-06-03

Y daith i Fflandrys - dydd Mawrth (43)

Y bechgyn a'r merched mewn glas

Gorsaf Euston, LlundainRoedd y bag wedi mynd, felly dyma fynd ati i chwilio am yr heddlu, Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig. Cefais gyngor i fynd at ffôn ger y ffordd mas a ffonio o fan'ny. Wedi ffonio a dweud fy mod wedi colli fy mag roedd yn rhaid imi aros wrth y ffôn nes bod rhywun yn dod i fy helpu. Roedd y lleill gyda mi, diolch byth. Ar ôl aros am ddeng munud a oedd yn ymddangos fel awr dyma rhywun yn dod a chynnau'r golau yn yr orsaf heddlu a gofyn i mi ddod i mewn; daeth pawb arall i mewn gyda mi hefyd. Wedyn i mewn i'r ystafell gyfweld a daeth Dr HW yn gwmni i mi. Dyma'r swyddog yn dweud y byddai cynorthwyydd lleyg cyswllt trosedd cymunedol yn cymryd fy natganiad; o fewn ychydig eiliadau roeddwn yn sylweddoli nad oeddwn yn mynd i weld fy mag na'i gynnwys byth eto!

Y peth cyntaf ddywedodd honno oedd taw dyma ei diwrnod cyntaf. Roedd hi'n cael y ffurflenni yn rhy gymhleth i'w deall, doedd hi ddim yn gwybod pa rannau i'w llenwi. Wedi iddi fy holi beth oedd fy ngwaith fe oedais rhag dweud "curadur" rhag i hynny ymddangos yn rhy gymhleth a dyma ddweu "llyfrgellydd" - roedd hynny'n drech na hi. Roeddwn yn teimlo Dr HW yn danto wrth fy ymyl. Roedd ceisio dweud fy nghyfeiriad yn ffars. Roeddwn i'n dechrau chwerthin yn barod. Pan ddywedais i beth oedd cynnwys y bag - peth arian, taflenni Iseldireg, dau ramadeg Iseldireg, un llyfr brawddegau Iseldireg, un geiriadur Iseldireg, Canllawiau iaith a chymorth sillafu J. Elwyn Hughes (mae'n rhaid cael hwnnw ar eich gwyliau, jyst rhag ofn - ddim fy mod i'n gwrando arno bob amser) a chopi o'r cyfieithiad diweddaraf o'r Beibl i Iseldireg (katholieke editie) - ei hymateb oedd "I bet they're disappointed!" Ddim mor siomedig â finnau, dywedais wrthyf fy hun. Diolch byth am Dr HW a'r gweddill, doedd dim llawer o gysur yn mynd i ddod oddi wrth yr heddlu.

Helo Llundain, ta ta bag, ta ta Beibl!