Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2005-06-03

Y daith i Fflandrys - dydd Mawrth (41)

'Nôl i Lille

DML a Dr HW yn disgwyl am y trên Eurostar, LilleNid gadael Rollegem oedd yr unig gam yn y broses o gyrraed Cymru'n ôl. Roedd yn rhaid mynd ar y draffordd ac i Lille. Am Aalbeke i gychwyn ac i'r orsaf betrol fan'ny i lenwi'r car â diesel fel oedd angen ei wneud cyn mynd ag e'n ôl i swyddfa Avis yng ngorsaf Lille Flandres. Doedd rhoi diesel yn y car ddim yn llawer o broblem, nag ychwaith dod o hyd i'r draffordd a mynd ar hyd-ddi i Lille, ond roedd dod o hyd i'r orsaf yr ochr draw ychydig yn fwy anodd yng nghanol y traffig boreol. Ond fe yrrodd RO yn arbennig hyd yn oed pan oeddwn i'n gweiddi arno! Yn y diwedd fe gawsom ni ein hunain yn Lille Flandres ac yn barod i ddechrau am adref. Hoe ar y platfform i gael mwgyn ac yna ymlaen am orsaf Lille Europe a thrên yr Eurostrar. Dangos y tocyn i ddechrau, trwy'r prosesau diogelwch, yna dangos y pasport i swyddogion Ffrainc, yna i swyddogion Prydain, a dyna ni yn barod i fynd ar y trên ac yn ôl i Lundain.