Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2005-06-03

Y daith i Fflandrys - dydd Mawrth (40)

Elckerlyck Inn, Rollegem

Y toilet, Gwesty Elckerlyck Inn, RollegemLlety sy'n rhoi ei stamp ar wyliau yn aml iawn. Os yw'r llety'n wael mae cysgod tywyll hynny'n cymylu bob dydd a phob profiad, gan eich bod yn gwybod bod yn rhaid dychwelyd iddo. Ond os yw'r llety yn gyfforddus a glân a dechau yna mae hynny'n ychwanegu at fwynhâd y gwyliau. Roedd Elckerlyck Inn yn westy cyfforddus, glân a dechau - ac i brofi hynny dyma lun o'r tŷ bach, ffordd dda o bwyso a mesur glanweithdra yn unrhyw le. Ac er ein bod yn agos i draffyrdd a dinasoedd mawrion roedd y gwesty fel petai allan yn y wlad - byddai celiog yn canu bob bore, clywais y gwcw yn canu hefyd ac roedd 'na lonyddwch tawel yn y lle. Alla i ddim canmol y lle digon a byddwn yn ei awgrymu fel lle i aros i unrhyw un sydd am ymweld â ffiniau ieithyddol yng Ngwlad Belg, Fflandrys neu fynwentydd y Rhyfel byd 1914-1918.

Wrth y ford frecwast, Gwesty Elckerlyck Inn, Rollegem

Rhagor o luniau o Westy Elckerlyck Inn, Rollegem.

Rhagor o wybodaeth am Westy Elckerlyck Inn, Rollegem.

Ble yn union mae Rollegem?