Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2005-06-02

Y daith i Fflandrys - dydd Mawrth (39)

Bore ola'r gwyliau

Dr HW, Guido, RO a DML yn y bar, Elckerlyck Inn, RollegemYr un yw hyd diwrnod yn Fflandrys â Chymru medden nhw, ond yn ôl fy mhrofiad i maen nhw'n fyrrach. Mae'n rhaid ei fod e'n rhywbeth i'w wneud â throi'r amser ymlaen awr wrth fynd drwy'r twnel, neu'n rhyw ddatganiad Brwselaidd sydd wedi'i orfodi arnom i gyd yn erbyn ein hewyllys. Petawn i'n rhedeg yr Undeb Ewropeaidd buaswn i'n datgan bod yn rhaid i ddiwrnodau Fflandrys fod dipyn yn hwy na rhai Cymru. Wedyn fe alla pobol sy'n dod ar ei gwyliau i'r wlad fedru gwneud a gweld mwy o bethau, er enghraifft, treulio mwy o amser mewn llefydd fel yr IJzertoren. Ond dwy hynny ddim wedi digwydd eto, ac felly rhaid bodloni ar yr hyn a gawsom.

Codi'n yn gynt na'r arfer heddiw er mwyn pacio a bod yn barod am y daith. Brecwast am 8.00am yn hytrach na 8.30am, ond yr un wledd ag arfer. Yna talu a ffarwelio. Fe gawsom groeso hyfryd yn y gwesty a doedd dim yn ormod o drafferth i Guido, Andrea a Joost. Ond erbyn 8.30am roeddem ar y ffordd yn ôl am Lille, Waterloo a Chymru.