Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2005-06-02

Y daith i Fflandrys - dydd Llun (38)

Last post, Menenpoort, Ieper

U bent hier, Ieper"U bent hier" meddai'r map Iseldireg ar gyfer twristiaid, ac roeddem ni yn bendant wrth Menenpoort yn disgwyl am ganu'r 'Last post'. Mae'r Menenpoort yn borth i ddinas Ieper, ond mae hefyd yn un o'r cofebau rhyfel mwyaf yn Fflandrys. Fe'i codwyd er cof am y rhai a gollwyd yn Rhyfel byd 1914-1918, ond na chawsant fedd am na chawsant eu hadnabod. Caiff 54,338 eu coffáu ar furiau'r porth. Dewiswyd y porth fel cofeb oherwydd trwyddo yr aeth cannoedd o filoedd o filwyr i ymladd a marw ar feysydd gwaedlyd Fflandrys.

Menenpoort, IeperRoedd 'na wynt oer yn chwythu heibio i'r porth wrth inni gyrraedd rhyw ddeugain munud yn gynnar. Roeddwn i mewn crys, tra'r oedd Dr HW mewn siaced ddenim, RO mewn siaced a DML mewn cardigan drwchus. Roeddwn yn teimlo ychydig yn oer. Ond nid oeddwn yn mynd i adael i hynny sbwylio fy mwynhâd, os mwynhâd yw'r gair ar gyfer rhywbeth fel hyn. Pan ddechreuodd y seremoni mae'n rhaid ei bod wedi bod yn llawn ystyr i'r rhai oedd yn rhan ohoni yn weithredol neu fel gwylwyr, ond yn anochel mae wedi troi yn un peth arall i'w wneud ar y llwybyr i dwristiaid o gwmpas Ewrop. Am ryw 7.30pm mae'r dorf yn dechrau casglu o dan y porth. Dwi'n cerdded o gwmpas yn edrych ar yr holl enwau - enw ar ôl enw ar ôl enw.

'Last post', Menenpoort, IeperMae'n amlwg fod DML wedi ymdeimlo â thrasiedi'r rhyfel 1914-1918 yn fawr iawn. Dwi'n tynnu ei goes wrth ei alw yn "rhyfelgarwr" oherwydd ei ddymuniad tanbaid i fod yn dyst i seremoni'r 'Last post' wrth Menenpoort, ond dwi ddim yn credu ei fod yn gweld y tynnu coes ac fe ddylwn fod yn llawer mwy sensitif oherwydd mae'r hanes yn un trychinebus ar raddfa enfawr ond yn hanes sy'n drychineb unigol hefyd. Yma ym Menenpoort mae dros 50,000 o straeon unigol sy'n ddigon i dorri calon. Roedd agwedd DML wrth fedd Hedd Wyn wedi dangos yr un ymdeimlad.

Teyrngedau, Menenpoort, IeperYn raddol dwi'n dechrau ymdeimlo â'r sefyllfa a'r awyrgylch. Mae 'na bobol ifainc yma fel mewn cynifer o gofebau rhyfel yr ŷm ni wedi ymweld â hwy dros y dyddiau diwethaf. Am 8.00pm mae torf o dan y porth ac mae'r rhai sy'n chwarae'r utgyrn wedi cyrraedd. Mae'r dorf yn tawelu, seinir y 'last post' ac mae rhai o'r dorf yn clapio; daw rhywun ymlaen i ddatgan coffadwraeth, ac mae pawb yn cadw munud o dawelwch. Daw dau ymlaen yn awr i osod teyrnged flodau wrth y porth. Cenir yr utgyrn unwaith eto, ac mae'r cyfan ar ben - pawb yn siarad yn uchel unwaith eto, y ceir yn gyrru heibio a ninnau'n chwilio am rywle i fwyta a chwedyn chwilio ein ffodd yn ôl i Rollegem yn y twyllwch.

Fideo byr (fformat AVI) o'r seremoni wrth Menenpoort. RHYBUDD! Mae'r ffeil yn un fawr (3.5MB), ond os ydych yn medru ei lawrlwytho mae'n werth gwneud.

Lluniau o'r enwau ar Menenpoort.

Rhagor o luniau Menenpoort.

Yr holl luniau o bumed diwrnod y gwyliau.