Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2005-06-02

Y daith i Fflandrys - dydd Llun (37)

"Bydd yr utgorn yn seinio" (1 Cor 15.52) ... ymhen dwy awr!

DML yn darllen llyfr am Hedd Wyn mewn caffi, IeperWedi gorffen yn yr arddangosfa roedd dwy awr i'w lladd cyn y byddai'r 'Last post' yn cael ei seinio wrth y Menenpoort. Dwy awr i gael swper mewn unrhyw amgylchiadau eraill, ond gan ein bod wedi bwyta swper yn hwyr wrth yr IJzertoren, fe benderfynwyd taw'r syniad gorau fyddai cael rhywbeth i'w yfed nawr a bwyta wedi i'r utgorn seinio. Erbyn hyn roedd DML o leia wrth ei fodd, hyd yn oed os oedd arddangosfa In Flanders fields... wedi'i siomi, oherwydd yn siop yr arddangosfa fe gafodd gopi o'r llyfryn tairieithog - Cymraeg, Saesneg ac Iseldireg - am Hedd Wyn gan Lieve Dehandschutter. Ac mae pawb sy'n adnabod DML yn gwybod ei fod yn medru darllen unrhyw le ar unrhyw adeg, felly gyda'r llyfryn yn ei law doedd dim ots ganddo fe am y ddwy awr oedd i'w disgwyl cyn y 'Last post'. Doeddwn i ddim yn teimlo cweit mor jacôs!

RO a Dr HW mewn caffi, IeperCafwyd lle o dan do yn un o aml gaffis y Grote Markt. A fan'na bu'r pedwar ohonom yn disgwyl. Aeth RO a finnau draw at y siop lyfrau lle'r oeddwn i wedi prynu fy meibl Iseldireg y dydd Iau blaenorol, ond roedd wedi cau am 18.30 ac felly doedd dim amdani ond mynd yn ôl at y caffi. Roedd RO yntau wedi prynu copi o'r llyfryn am Hedd Wyn yn yr arddangosfa, felly roeddwn i'n medru gwylio pobol yn darllen mewn stereo! Ond dwi'n ofni nad yw gwylio pobol yn darllen mewn stereo yn gwneud i'r amser hedfan yn ddim cynt na gwylio jyst un person yn darllen ar ei ben ei hun.

Bydd yn rhaid imi ddysgu bod yn fwy amyneddgar. Hir pob aros.