Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2005-06-02

Y daith i Fflandrys - dydd Llun (35)

Cinio ger yr IJzertoren

Cinio mewn bwyty ger yr IJzertoren, DiksmuideDwi'n gwybod nad yw'n edrych yn llawer, ond mewn un ffordd y cinio hwn oedd uchafbwynt fy ymweliad â Fflandrys. Nid y cynnwys oedd y rheswm dros hynny, er ei fod yn ddigon blasus - kroketten, friten met salade. Nid y lleoliad oedd y rheswm chwaith, ond roedd hwnnw'n ddigon braf - ar lan afon IJzer, yr haul yn disgleirio, yng nghysgod yr IJzertoren, a finnau ar fy ngwyliau yng nghwmni cyfeillion annwyl oedd wedi dangos eu siâr o verdraagzaamheid (goddefgarwch) ar y daith. Y rheswm taw'r cinio hwn oedd uchafbwynt fy ngwyliau oedd am fy mod wedi llwyddo i ddefnyddio Iseldireg o'r dechrau i'r diwedd, heb i'r weinyddes feddwl am droi i siarad unrhyw iaith arall. Fe wnes i archebu diodydd i fy hun, ac i'r gweddill; yna prydau o fwyd, a mwy o ddiodydd. Yna fe wnes i dalu gyda cherdyn. Ac fe wnes i'r cyfan mewn Iseldireg. Nawr, fyddwn i ddim am dwyllo neb fy mod yn medru siarad Iseldireg go iawn, ond roeddwn wedi dysgu digon i wneud yr hyn yr oeddwn am ei wneud, a phwy fyddai mor ffôl â cheisio defnyddio unrhyw iaith heblaw am Iseldireg mor agos â hyn at y gofeb adfywiad, neu ddefroad, Fflandrys.

Er fy mod bron â byrstio gan falchder oherwydd yr hyn yr oeddwn wedi'i wneud, penderfynais y byddai'n ddoethach imi fod yn dawel am y peth ar y pryd. Dwi'n credu taw dim ond hyn a hyn o sôn am Iseldireg y gall pobol ei dderbyn, onibai eu bod fel finnau yn obsesifiaid; ac roedd y cyfeillion wedi derbyn lot o sôn am Iseldireg yn barod heddiw a doeddwn i ddim am hwpo fy lwc!

Rhagor o luniau o'r IJzertoren, ger Diksmuide.