Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2005-06-01

Y daith i Fflandrys - dydd Llun (34)

Heddwch, Rhyddid, Goddefgarwch
Vrede, Vrijheid, Verdraagzaamheid


IJzertoren, DiksmuideMae'r tŵr wedi datblygu dros y blynyddoedd i fod yn ganolfan sy'n ceisio hybu nifer o bethau. Yn bennaf mae'n amgueddfa heddwch, sy'n cyfuno adrodd hanes y rhyfel gydag adrodd hanes adfywiad Fflandrys a ddigwyddodd yng nghanol y brwydro gwaedlyd a welwyd o gwmpas Ieper a Diksmuide. Yn ychwanegol at hyn hefyd mae'r tŵr yn adrodd hanes anoddefgarwch a brofodd siaradwyr Iseldireg o fewn i wladwriaeth Gwlad Belg dros flynyddoedd lawer a'r alwad am fwy o oddefgarwch. Erbyn hyn mae'r tri gair sy'n gysylltiedig â chenhadaeth y tŵr - heddwch, rhyddid a goddefgarwch - wedi dod yn rhan hanfodol o eirfa wleidyddol Fflandrys, mae pawb yn ceisio'u hawlio iddynt eu hunain.

Amgueddfa'r IJzertoren

Fel y dywedais i er mwyn cyrraedd mynediad yr Amgueddfa mae'n rhaid cyrraedd top y tŵr a cherdded i lawr yn araf o lawr i lawr gan ddechrau gyda'r unfed llawr ar hugain. Doeddwn i ddim wedi sylweddoli fod cymaint i weld yno, na chwaith fod cymaint oedd ei werth ei weld yno.
Llawr 22: Yr ystafell wylio ar dop y tŵr.
Llawr 21: Fflandrys, gorffennol gwych.
Llawr 20: Cyfansoddiad 1830: y frwydr gyntaf.
Llawr 19: Mudiad y myfyrwyr: y deddfau iaith cyntaf.
Llawr 18: Sarajevo 1914: y lladd, galwad y brenin ar ddynion Fflandrys i ymladd
Llawr 17: "Rydym yn byw yma fel gwahaddod o dan y ddaear...": y brwydro yn ardal gorllewin Fflandrys.
Llawr 16: Rhyfel twp: Nadolig 1915, un diwrnod o 'heddwch'; milwyr Fflandrys yn dihuno a sefydlu'r
Frontbeweging (Mudiad y ffrynt).
Llawr 15: "Syr, does dim ffydd gyda ni bellach...": marwolaeth fel cyfaill; yr ymosodiadau nwy cyntaf.
Llawr 14: Cadoediad 11/11/1918: Mae'n gwaed ni yma, pam nad ein hawliau?
Llawr 13: Canlyniadau'r rhyfel: byddin Fflandrys, y Tad Daens, gweithwyr o bob tu i'r ffin, Brwsel yn mynd yn fwy Ffrengig.
Llawr 12: Cyfiawnder: arloeswyr cymdeithasol, mudiadau cydweithredol, mudiad y cyn-filwyr.
Llawr 11: Twf "Fflandrysrwydd".
Llawr 10: Gafael yn y nesaf: Rhyfel Byd 1939-1945; y gysgodfa; y bomio.
Llawr 9: O anobaith i obaith: Hiroshima a dyddiau heddwch yr IJzertoren.
Llawr 8: Ymgyrchoedd o blaid Iseldireg: gorymdeithiau ym Mrwsel, diwygio'r wladwriaeth, Leuven Fflemaidd, y ffin ieithyddol a chymunedau ar y ffin ieithyddol.
Llawr 7: Gyda'n gilydd mae creu dyfodol: Fflandrys mewn Gwlad Belg ffederal, Senedd Fflandrys, y deffroad a'r cynnydd Fflemaidd.
Llawr 6: Hanes pererindodau IJzer mewn posteri a baneri:
Ten Vrede, gŵyl gerddorol yn seiliedig ar egwyddorion heddwch, rhyddid a goddefgarwch.
Llawr 5: Arddangosfeydd dros-dro; bywyd y bardd Guido Gezelle.
Llawr 4: Cost rhyfel: plant mewn rhyfeloedd, ymladdwyr dros fyd di-drais, enillwyr gwobr heddwch Nobel.
Llawr 3: Bywyd yn y ffosydd yn ystod Rhyfel byd 1914-1918.
Llawr 2: Profiad o gerdded trwy ffos go iawn sydd wedi'i symud i'r amgueddfa.
Llawr 1: Arddangosfa o baentiadau ar themâu rhyfel a rhyddid Fflandrys.
Gormod i'w weld

Fel y gwelwch chi roedd rhywbeth o ddiddordeb ar bob llawr, dyma amgueddfa oedd yn bendant yn llefaru'n groyw wrth Gymro o fath arbennig - fy math i! Heddwch a chenedlaetholdeb! Ond roedd 'na ormod i'w weld yn yr amser yr oeddwn i wedi meddwl. Wedi dwy awr, a hithau'n tynnu tua 2.30pm roedd yn rhaid mynd i chwilio am ginio a ninnau ond wedi cyrraedd llawr 12! Os ych chi'n mynd i weld yr IJzertoren cofiwch adael digon o amser achos byddwch chi am ddarllen yr arddangosfeydd i gyd oherwydd eu bod mor ddiddorol.

Rhagor o luniau o'r IJzertoren, ger Diksmuide.