Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2005-06-01

Y daith i Fflandrys - dydd Llun (33)

Mynd i dop yr IJzertoren

IJzertoren, DiksmuideNid oedd 85 metr yn swnio'n llawer pan ddeallais taw dyna oedd uchder y tŵr. Ond wrth edrych arno mae'r IJzertoren yn uchel iawn, yn enwedig os ydych chi'n casáu uchder fel finnau a Dr HW. Wrth brynu'r tocyn i fynd i weld y tŵr doeddwn i erioed yn meddwl y buaswn i yn cyrraedd ei dop e. Roedd y wraig wrth y blwch tocynnau wedi'i chynhyrfu'n lân i glywed ein bod yn dod o Gymru, a gwraig arall oedd yn edrych ar bethau yn siop - weithiau mae pobl yn deall beth a phwy ichi ac mae hynny'n medru bod yn deimlad da, o leia ambell waith does dim rhaid esbonio. Ond dywedodd y wraig yn y siop oedd yn gwybod am Gymru ac wnaeth imi deimlo cystal pa mor wych oedd yr olygfa o'r top, a dyma fi'n dweud mewn cymysgedd o Iseldireg a Saesneg nad oeddwn i yn mynd i fynd i'r top - newyddion da a drwg ar yr un pryd!

Dr HW yn mwynhau'r olygfa o ben yr IJzertoren, DiksmuideMae tŵr ar yr ochr arall i afon IJzer i dref Diksmuide yng nghanol cae gwyrdd mawr sy'n cael ei ddefnyddio ar gyfer y ralïau neu'r pererindodau sy'n ymgasglu yno. Roeddem ni'n ymweld drannoeth gŵyl heddwch Ten Vrede. Erbyn hyn mae'r tŵr yn gartref i amgueddfa sy'n ymestyn o'r unfed llawr ar hugain hyd at y gwaelod. Do, fe ddealloch chi'n iawn - er mwyn mynd trwy'r amgueddfa mae'n rhaid ichi fynd i dop y tŵr, a dyna fi wedi gobeithio y gallai'r lleill fynd i dop y tŵr a gadael fi ar y gwaelod i edrych o gwmpas yr amgueddfa! Wrth inni nesáu roedd yn rhaid imi benderfynu beth oeddwn i am wneud; a oeddwn i mewn difrif yn mynd i lawr 22 a mynd allan i'r panoramazaal, yr ystafell wylio, ac edrych mas dros y wlad o gwmpas. Roeddwn i'n teimlo fy nghalon yn curo. Nid oeddwn ar ben fy hunan yn fy mhanig, roedd Dr HW yr un mor ofidus; ond gyda'n gilydd fe lwyddon ni i oresgyn ein hofnau a mentro i mewn i'r lifft i fynd â ni yn nes at y nefoedd.

Yn rhyfeddol wedi cyrraedd y top a'r ystafell wylio, doeddwn i ddim yn teimlo unrhyw ansicrwydd. Roedd gwydr o gwmpas yr holl ffenetri ac fe allen ni weld allan dros dir fflat Fflandrys, dros yr union wlad lle'r ymladdwyd brwydrau gwaedlyd diystyr Rhyfel byd 1914-1918. Uwchben y ffenestri roedd paentiad yn ceisio dangos beth oedd yr olygfa yma wedi'r rhyfel. Roedd edrych ar dref Diksmuide yn drawiadol iawn. Cafodd honno eu difa i'r fath raddau fel eu bod wedi gorfod defnyddio mapiau a meusriadau daearyddol i adnabod rhai llefydd.

Dyma Diksmuide heddiw.

Diksmuide

Dyma Diksmuide yn ystod rhyfel 1914-1918

Diksmuide yn ystod Rhyfel Byd 1914-1918

Roedd y profiad yn un gwych - roedd y fenyw yn y siop yn iawn. Dwi'n mor falch fod Dr HW wedi rhoi'r hyder imi fynd i'r top. Fyddwn i ddim wedi colli hyn oherwydd rhyw syniadau twp - roedd yn werth pob dime o'r tâl mynediad o €6.

Rhagor o luniau o'r IJzertoren, ger Diksmuide.