Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2005-06-01

Y daith i Fflandrys - dydd Llun (32)

IJzertoren, neu, Tŵr IJzer

RO, DML a Dr HW ger yr IJzertoren, DiksmuideCofeb ryfel yw'r IJzertoren, fe'i codwyd i gofio'r miloedd o ddynion Fflandrys a laddwyd yn ystod y Rhyfel byd 1914-1918. Ond mae'r IJzertoren yn llawer mwy na hynny hefyd mae'n sumbol o genedlaetholdeb Fflemaidd.

Wrth annog dynion i gofrestru yn y fyddin i amddiffyn Gwlad Belg addawodd y brenin Albert I gydraddoldeb go iawn i Fflandrys yn dilyn y rhyfel. Profodd y rhyfel yn gyfnod anodd iawn i'r Fflandryswyr yn y fyddin wrth iddyn nhw weld eu hunain yn fwyafrif o filwyr cyffredin yn siarad Iseldireg yn cael ei rheoli gan swyddogion oedd i gyd bron yn Ffrangeg eu hiaith. Arweiniodd hyd at ddadrithiad yn eu plith, ond twf yn eu hymwybyddiaeth o fod yn Fflandryswyr. Sefydlodd y milwyr y Frontbeweging (Mudiad y ffrynt) gyda thri nod: hunan-lywodraeth i Fflandrys, dim mwy o ryfela a heddwch i bawb beth bynnag eu cred. Dyna pam y gelwir yr IJzertoren yn gofeb i ddeffroad Fflandrys yn ogystal â lladdedigion y rhyfel.

Alles voor Vlaanderen – Vlaanderen voor Kristus

Paxpoort, IJzertoren, DiksmuidePan fyddai aelod o fyddin Gwlad Belg yn cael eu claddu yn ystod Rhyfel byd 1914-1918 carreg gyda'r arysgrif Ffrangeg 'Mort pour la patrie' fyddai'n cael ei gosod uwch ei fedd. Yn 1916 sefydlwyd pwyllgor i osod carreg fedd deilwng o arwydd Fflandrys ar fedd eu lladdedigion. Ar ffurf croes Geltaidd roedd yn dwyn yr arysgrif AVV-VVK (Alles voor Vlaanderen – Vlaanderen voor Kristus = Y cyfan er mwyn Fflandrys - Fflandrys i Grist). Codwyd yr IJzertoren ar batrwm y croesau yma ac mae'r arysgrif AVV-VVK i'w gweld yn glir arno.

Pan godwyd y tŵr-gofeb cyntaf yma yn ystod y 1920au fe ddaeth yn fuan iawn yn ganolfan bererindota grefyddol a gwleidyddol ar gyfer Fflandrys gyda miloedd yn dod ynghyd yno i ddatgan eu hawliau fel Fflanryswyr. Ond yn 1946 fe chwythwyd y tŵr cyntaf i fyny gan elynion ymryddhâd Fflandrys, eto i gyd fe barhawyd i drefnu'r prererindod blynyddol i'r fan a chynlluniwyd i godi ail dŵr yno. Gosodwyd y garreg sylfaen yn 1952 a gorffennwyd yr adeiladu yn 1965. Troes gweddillion y tŵr cyntaf yn borth heddwch sydd erbyn hyn yn arwain at yr IJzertoren. Mae'r IJzertoren yn 85 metr o uchder.

Rhagor o luniau o'r IJzertoren, ger Diksmuide.