Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2005-06-01

Y daith i Fflandrys - dydd Llun (31)

Tuag at Diksmuide

Beddau rhyfel byd 1914-1918, mynwent Bedford House, ger ZillebekeSaif yr IJzertoren yn nhref Diksmuide sydd i'r gogledd o Ieper, ac felly dyma adael Komen/Comines gan fynd i'r gogledd. Roeddem yn croesi'r ffin ieithyddol unwaith eto wrth deithio ar hyd y ffordd hon wrth groesi yn ôl o Walonia i Fflandrys - ond wnaethon ni ddim stopio i fi gael tynnu llun achos dwi'n credu fod pawb arall wedi cael cymaint o ffiniau a lleiafrifoedd ieithyddol ag oedd yr oeddent yn ei ddymuno y diwrnod hwnnw!

Beddau o Ryfel Byd 1939-1945, mynwent Bedford House, ZillebekeOnd fe wnaethon ni aros yn fuan ar ôl croesi'r ffin wrth inni fynd heibio i fynwent filwrol arall. Wrth fynd yn nes ati roedd yr enw yn amlwg ar y fynedfa, Bedford House Cemetery. Wyddwn i ddim ar y pryd ond dyma un o fynwentydd mwyaf ardal Ieper. Mae'r fynwent yn gorwedd ar safle plas a ddefnyddiwyd gan y fyddin i drin cleifion, ac mae'r ffôs ddŵr o gwmpas y plas yn dal i fod yno. Ceir yno hefyd feddau lladdedigion Rhyfel byd 1939-1945 yn ogystal â rhai Rhyfel byd 1914-1918. Roedd milwyr 1939-1945 wedi'u lladd yn Dunkirk. Yn y fynwent o'r Rhyfel byd 1914-1918 ceir cofebau ar ffurf "temlau" crwn i goffáu'r milwyr o India sydd wedi'u claddu yma.