Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2005-05-31

Y daith i Fflandrys - dydd Llun (30)

Ymweld â Komen-Waasten/Comines-Warneton

Ar ôl sefyll ar y ffin ein nod nesaf oedd mynd i un o'r pentrefi ar y ffin ieithyddol lle'r oedd gan yr iaith leiafrifol hawliau o ryw fath. Roeddwn i'n ffansïo ymweld â Komen-Waasten yng ngorllewin Fflandrys, ond yn rhanbarth Walonia yn weinyddol oherwydd ei bod yn ardal gyda mwyafrif o siaradwyr Ffrangeg. Felly 'nôl â ni i gychwyn i Rollegem a gwneud ein ffordd am y draffordd am Ieper, yr A19. Ond doeddem ni ddim yn aros yn hir ar y draffordd achos ger Menen dyma droi i ffwrdd â dilyn y ffordd ddeuol i gymuned Comines-Warneton. Er gwaethaf yr enw mae'r ddwy yn drefi ar wahân, a dwi ddim yn gwybod ai fi oedd yn dychmygu'r peth, ond roedd 'na awyrgylch wahanol yn yr ardal - awyrgylch Ffrengig! Roedd Dr HW yn meddwl fod y lle yn edrych yn fwy di-raen na Fflandrys, a dwi'n sŵr ei fod yn iawn.

Waasten / Warneton

RO, DML a Dr HW ger y gofeb ryfel, Waasten / WarnetonRoedd rhyw dawelwch rhyfedd yn Warneton. Dwi'n gwybod ei bod hi'n gymharol fore ar ŵyl y banc, ond dwi ddim yn dychmygu rhyw lawer byth yn digwydd yn y dref fach hon heblaw am ambell i gath yn sgramlo am gysgod, neu wraig yn popo miwn i'r becws i 'nôl bara. Heblaw amdanom ni ein hunain ni welsom ond rhyw dau neu dri o blant ac un hen wraig yn ystod ein hymweliad â'r dref. Doedd dim byd ar agor chwaith felly penderfynu mynd ymlaen i weld a oedd mwy o fywyd yn Komen / Comines.

I fynd i Komen / Comines roedd yn rhaid mynd trwy Neer-Waasten / Bas-Warneton ac ar y ffordd roedd 'na bosteri yn protestio yn erbyn datblygu - "Mae Bas-Warneton wedi rhoi eu siâr nhw. Dim mwy o ddatblygu!" Mae'n ddiddorol sut mae rhai themâu yn codi'u pennau o wlad i wlad bellach.

Rhagor o luniau o Waasten/Warneton.

Komen / Comines

Yr eglwys a'r farchnad, Komen / CominesRoedd mwy o fywyd yn Komen / Comines gyda marchnad yng nghanol y dref. Rhaid imi ddweud fod y farchnad yn fwy tebyg i'r 'Sunday markets' Prydeinig na'r marchnadoedd yr oeddwn i wedi disgwyl eu gweld yng Ngwlad Belg, ond roedd yn dod â bywyd i'r lle. Gyferbyn â'r farchnad saif Neuadd Cymuned Comines-Warneton. Mae i'r Neuadd ei harwyddocâd arbennig yn hans ieithyddol Gwlad Belg. O dan Deddf 1963 gosodwyd y gymuned o fewn i ranbarth Ffrengig Walonia a sir Hainaut, ond doedd siaradwyr Iseldireg ddim yn hapus na chendelaetholwyr Fflemaidd ac bu protestio mawr yma. Ceisiodd y cenedlaetholwyr Fflemaidd feddiannu'r Neuadd a gorfodi'r weinyddiaeth i ddefnyddio Iseldireg, ond nid felly y bu. Mae cenedlaetholwyr Fflemaidd yn dal i gwyno am Komen/Comines am nad ydynt yn credu fod yr hawliau sydd gan siaradwyr Iseldireg yn cael eu parchu yma. Dwi ddim yn gwybod dim byd am hynny. Ond ystod fy ymweliad i â Komen/Comines ni chlywais air o Iseldireg.

Arwydd mewn ffenestr yn Komen / CominesMae Komen/Comines yn dref hynod am fod y ffin wleidyddol yn rhedeg reit drwy'i chanol. Dros y bont ac ar lan arall afon Leie, neu Lys, mae Comines Ffrainc. Fe gerddodd y pedwar ohonom ni o'r farchnad i mewn i ganol y dref a thua'r bont, ond ni aethom drosti, sy'n biti mewn gwirionedd gan ein bod wedi bod mor agos i'r ffin. Wrth gerdded drwy'r dref y gwelais i'r nodyn bach trist hwn gan blentyn 10 oed oedd wedi colli ei gi.

Yng nghanol y dref fe wnaethon ni alw mewn bar a chael rhywbeth i yfed a chynllunio gweddill y bore a lle i gael cinio. Roeddem am fynd i weld un o sumbolau pwysicaf cenedlaetholdeb Fflandrys, sef yr IJzertoren. Ac roeddem ni hefyd am gyrraedd Ieper i weld y 'Last post' erbyn 8.00pm. Roeddem wedi gwneud trefniant gyda Guido nad oeddem am ddod yn ôl i West Elckyrlyck Inn am swper.

Rhagor o luniau o Komen/Comines.