Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2005-06-17

Dedlein a siom

Ymholiadau, Swyddfa'r Post, AberystwythRoedd heddiw yn ddiwrnod prysur i ddweud y lleia. Mae'n rhyfedd fel mae 'na gyfnodau yn dod pan fydd popeth yr ych chi'n gyfrifol amdanyn nhw yn dod at ei gilydd yr un pryd ac yn mynnu eich bod yn talu sylw iddynt. Roeddwn i wedi bod yn teimlo'n euog ers dechrau'r wythnos am waith yr oeddwn i heb ei orffen. Roeddwn i wedi cytuno ar ddedlein ers misoedd ar hyn, ond pan ddaeth yr amser roedd pethau eraill yn gorfod cymryd blaenoriaeth yn anffodus. Roeddwn i'n teimlo'n wael am y sefyllfa, ond doedd dim arall i'w wneud ond bod yn gwbl ddi-dderbyn-wyneb am y cyfan. Doeddwn i ddim yn medru gwneud y gwaith mewn pryd, ac felly roedd yn rhaid i bawb aros amdano. Y bore 'ma dyma lwyddo i wneud y rhan fwyaf o'r gwaith ac roeddwn i'n dechrau teimlo'n well. Dwi'n dweud nawr na fyddai byth mor ffôl eto ag addo gwneud - ond dwi'n adnabod fy hunan yn ddigon da i wybod bydd fy mwriad i ddweud "na" yn troi yn "ie" pan ddaw'r amser.

Y wobr roeddwn i wedi addo i fi fy hun am gwblhau'r dasg oedd mynd i weld beth oedd yr eitem o bost nad oedd wedi'i ddosbrthu i mi am fod £1.27 i'w dalu mewn ffi drafod. Lawr â fi i swyddfa alw'r Post Brenhinol i gael fy eitem o bost. Llythyr oddi wrth y BBC oedd e! Diolch byth fod 'na arian y tu fewn neu fe fydden i wedi bod yn grac ac yn siomedig. I ddweud y gwir roedd arian wedi fy siomi i oherwydd dwi'n disgwyl y llyfra a'r CDs ar gyfer fy nghwrs Iseldireg Nederlands voor anderstalingen. Dwi'n gobeithio'n fawr y byddan nhw'n dod cyn bo hir, dwi am ddechrau cyn gynted â phosib.