Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2005-06-11

Siop newydd yn y dre

Siop Carphone Warehouse, AberystwythMaen nhw'n dweud wrtha i ei bod hi wedi bod yno ers mis neu fwy, ond dim ond echdoe wnes i sylwi ar y siop Carphone Warehouse yn y Stryd Fawr lle'r oedd siop deithio Thomas Cook yn arfer bod. Mae pawb sy'n fy adnabod i yn gwybod fy mod yn un sy'n hoff o gadjedi, a buasai disgwyl ifi ddwli ar y ffaith fod siop ffonau symudol newydd yn y dref. Ac mae'n eithaf gwir i ddweud fy mod yn chwilio am ffôn symudol newydd a all roi cân 'Real' imi yn hytrach nag un poluffonig. Ond mae presenoldeb Carphone Warehouse yn y Stryd Fawr dim ond yn cynnal yr olwg o'n stryd fawr ni sydd yr un peth â phob stryd fawr ym Mhrydain. Dwi ddim yn gwybod beth oedd y rheswm yn Fflandrys - ac roedd gyda nhw eu siopau Spar - ond roedd y trefi yn edrych yn wahanol. Nid oedd yr un fath o siopau ym mhob tref a dinas. Roeddwn i'n darllen yn y Guardian yr wythnos hon fod y New Economic Forum wedi cyhoeddi adroddiad am hyn, sef Clone Town Britain. Wrth lansio'r adroddiad dyma beth oedd gan cyfarwyddydd policy y New Economic Forum i'w ddweud
Clone stores have a triple whammy on communities: they bleed the local economy of money, destroy the social glue provided by real local shops that holds communities together, and they steal the identity of our towns and cities. Then we are left with soulless clone towns. The argument that big retail is good because it provides consumers with choice is ironic, because in the end it leaves us with no choice at all.
Y tro nesaf yr ych chi'n Stryd Fawr, Aberystwyth neu yn rhywle arall edrychwch o'ch cwmpas ac edrychwch am beth sy'n gwneud y stryd yn wahanol. Mae'n mynd yn fwyfwy anodd i wneud hynny!