Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2005-06-09

Cyfarfod yn Neuadd Llwyncelyn

Cofeb, Neuadd Llwyncelyn, CeredigionGyda'r nos fe es i lawr i Neuadd Llwyncelyn ger Aberaeron ar gyfer cyfarfod o bwyllgor etholaeth Plaid Cymru - y cyntaf wedi'r etholiad cyffredinol. Roedd hi'n noson emosiynol, ond adeiladol gan edrych tuag at y dyfodol yn gymaint ag yn ôl ar beth ddigwyddodd.

Neuadd goffa yw Neuadd Llwyncelyn sydd wedi'i thrawsnewid gan grant Loteri Gwladol yn gymharol ddiweddar. Am y tro cyntaf roedd yr elfen goffa o ddiddordeb i fi. Ers ymweld â Fflandrys mae'r hanes wedi dod yn fyw iawn ac yn agos iawn ata i. Efallai fy mod yn dechrau deall yr hyn sydd yn gafael yn y rhai sydd â brwdfrydedd am yr hanes. Roedd 'na gofeb i'r bechgyn lleol a gollodd eu bywydau yn y Rhyfel Byd Cyntaf ar wal y Neuadd. Dyma'r hyn sy'n ymddangos ar y gofeb.
ARWYDD COFFA
am y brodyr dewr isod a syrthiodd
drosom ni yn y rhyfel mawr 1914-1918.
Y milwyr
EVAN DAVIES, ARNANT,
yn Ypres Belgium Gorffennaf 27, 1917.
EDGAR LEWIS JAMES, AERON COTTAGE,
yn Belgium Mai 28, 1917
TIMOTHY MELVILLE JONES, GWYNFE,
ger Albert Ffrainc Gorffennaf 21, 1916.
Y morwyr
DAVID EVANS, PENLON,
yn Sianel Lloegr Chwefror 21, 1918.
"Mewn angof ni chant fod."