Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2005-06-13

RO yn galw heibio

Swper 2005-06-12Gyda'r nos roedd RO wedi dweud y buasai'n galw heibio er mwyn i mi deipio rhywbeth iddo. Gan ei fod yn dod gyda'r nos dyma ei wahodd i swper. Fe benderfynais gwneud pobiad pasta gyda'r cynhwysion canlynol: winwns, garlleg, moron, ffa menyn, corbys, ffa pob, tomatos, stoc llysiau (OXO) a phasta wrth gwrs. Ar y top fe wnes i roi peth caws Jarlsberg - roedd hi'n drueni defnyddio caws mor flasus i goginio, ond dyna'r unig gosyn oedd yn y tŷ. Wedi swper fe eisteddodd RO, DML a finnau i lawr i wylio Dechrau canu, dechrau canmol oedd yn darlledu'r gymanfa ganu o Eisteddfod yr Urdd yng Nghanolfan y Mileniwm. Roedd Côr CF1 i'w weld yn amlwg yn y gynulleidfa, a'i harweinydd hwy, Eilir Owen Griffiths, oedd yn arwain. Dwi wedi gweld ei wyneb yn gyson ar y teledu dros y blynyddoedd diwetha ond hyd heddiw doedd gyda fi'r un syniad ei fod yn fab i rywun yr oeddwn yn ei adnabod! Diolch byth 'mod i heb ddweud rhywbeth oedd yn rhy gas yn yr adolygiad yn Barn!