Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2005-06-13

Therapi

Yr ystafell ymolchiAr ôl wythnosau o brysurdeb fe gefais gyfle o'r diwedd i ddechrau glanhau'r ystafell ymolchi. Dechrau yw'r gair pwysig, mae llawer mwy i'w wneud ond unwaith ichi ddechrau dyw hi ddim cweit cynddrwg mynd yn ôl ato wedyn. Ond mae'n rhaid dechrau! Fe wnes i orffen fy Bath power gan Ozkleen a dyma ddechrau defnyddio Cillit Bang amy tro cyntaf go iawn. Roedd yn gweithio'n dda, ond bydd yn rhaid ei ddefnyddio dros gyfnod er mwyn gweld pa mor effeithiol y mae mewn gwirionedd. Fe wnes i glirio ychydig hefyd mewn mannau eraill o gwmpas y tŷ. Mae'n rhaid cadw ar ben y gwaith glanhau yn gyson; yn anffodus yn ystod cyfnod yr etholiad a gwyliau i Fflandrys doeddwn i ddim wedi bod yn gwneud yr hyn a ddylwn i, sy'n golygu fod cymaint i'w wneud fel ei fod yn torri calon dyn cyn cychwyn. Ond mae'r tywydd braf yn help gan ei fod yn dangos y llwch yn well!