Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2005-06-13

Cino dydd Sul

Cinio dydd Sul 2005-06-12Gan ein bod wedi rhoi heibio ein harfer o fynd i ginio dydd Sul ym Mwyty Tŵr y Cloc, am fod y bwyty wedi cau, dwi wedi penderfynu peidio ag ymrwymo fy hun i drefniant rhy gaeth ar y Sul bellach. Ond mae'n dda cael cinio dydd Sul. Felly roeddwn yn falch iawn o'r gwahoddiad i ginio gyda GC, IBJ, MLJ a TLlJ. Cwrdd â nhw ar y ffordd adref o'r eglwys wnes i. Rydw i wedi siarad mwy gyda GC dros y penwythnos 'ma nag ydw i wedi'i wneud ers misoedd. Wrth ddisgwyl cinio dyma ddechrau edrych ar gyngerdd agoriadol Eisteddfod yr Urdd yng Nghanolfan y Mileniwm. Roedd yn arbennig, ac yn fy atgoffa unwaith eto o ba mor ddi-fflach a diysbrydoliaeth oedd y cyngerdd a agorodd y ganolfan yn wreiddiol.

Cinio dydd Sul 2005-06-12Iwm, iwm, yw'r unig ffordd i ddisgrifio'r cinio - ffowlyn gyda phopeth y gallech chi ei ddymuno - a'r pwdin wedyn, pwdin reis a mefus. Dwi ddim yn deall siwd mae GC yn coginio cinawau mor flasus. Byddai'n ceisio coginio yr un pryd weithiau yn defnyddio'r un cynhwysion, ond dyw e byth yn dod yn agos i flasu'r un peth â seigiau GC. Roedd MLJ a TLlJ yn arbennig o ddifyr heddiw wrth sôn y peth hyn a'r peth arall, ac roedd y ddau ohonyn nhw'n edrych ymlaen i fynd i barti pen blwydd i wibgartio yn Llangrannog. Wedi i'r plant fynd i'w parti dyma GC a finnau yn cael cwpanaid o de a sgwrs bellach. Tua 3.00pm dyma BT yn galw heibio a dyma fi'n penderfynu mynd oherwydd roedd yn rhaid imi wneud paratoadau ar gyfer swper heno gan fy mod yn disgwyl ymwelydd.

Cafwyd ychydig o siom pan ffoniodd Ysbyty Bronglais i ddweud na fyddai'n bosib i ACD fynd mewn i'r ysbyty heddiw i ddechrau ei driniaeth - doedd dim gwely ar gael a byddai'n rhaid iddo fynd am 8.00am bore 'fory. Mae disgwyl iddo fynd i mewn ddydd Llun a dod mas dydd Mawrth, bydd yn cael ei driniaeth adref.