
O'r diwedd mae'r posteri yn dechrau ymddangos yn erbyn
cyfarfod y G8 sydd i'w gynnal yn yr Alban fis Gorffennaf. Dyma'r cyfarfod lle bydd trafod ar ddyled rhai o wledydd tlotaf y byd - lle mae
Gordon Brown a Tony Blair yn mynnu eu bod wedi llwyddo. Wrth gwrs fe drafodir llawer o bethau eraill yn y cyfarfod hefyd sydd o ddiddordeb i nifer fawr o bobl. Un o'r pethau hynny yw
twymo byd-eang. Dwi'n ymddangos ar raglen radio
Bwrw golwg fore Sul ac mae e wedi gofyn imi weld faint o adnoddau sydd ei angen arna i i fyw. Mae'n werth trio'r prawf bach sydd ar wefan
Ecological footprint sy'n ceisio dangos sawl "byd" fyddai angen arnoch chi i fyw y bywyd rydych chi'n byw o ran adnoddau. Dwi wedi gwneud y prawf ac er mwyn imi barhau i fyw fel dwi'n byw byddai angen 1.6 byd! Tybed beth fydd G8 yn ei wneud am hyn?
Rhagor o luniau o ymgyrchu G8 yn Aberystwyth.