Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2005-06-13

Hamddena

SW, AVH a GC yn nhafarn Varsity, AberystwythBore Sadwrn bues i wrthi'n gwnued peth darllen cefndir ar gyfer rhaglen Bwrw golwg fore Sul - mae Archesgob Caergaint newydd sefydlu pwyllgor ymgynghorol i geisio delio gyda'r gwahanol raniadau mewnol sy'n ymddangos o fewn Anglicaniaeth a chyhoeddwyd yr aelodau'r wythnos hon. Yn eu plith mae Michael Evans o Abertawe sy'n fargyfreithiwr; mae'r pwyslais ar gyfraith eglwysig yn ogystal â diwinyddiaeth. Bues hefyd yn ceisio tacluso beth o gwmpas y tŷ. Bues i hefyd yn gorffen erthygl ar gyfer y cylchgrawn Barn roeddw i wedi'i haddo ers dydd Iau, ond roedd amgylchiadau wedi bod yn anodd. Ond o'r diwedd fe'i gorffenais. Mae'n rhyfedd pa mor araf mae geiriau yn dod ar brydiau. Ond fel arfer fy arfer yw jyst eistedd i lawr a'u gorfodi i ddodd. Ond roeddwn wedi bod yn rhy brysur i wneud hynny hyd yn oed. Wedyn dyma fynd i weld GC er mwyn ceisio datrys rhyw broblem gyda'r cyfrifiadur - dim byd rhy fawr, ond roedd yn rhaid ail-lwytho rhaglen, a dwi'n ofni nad oeddwn i'n deall beth oedd wedi digwydd. Ond roedd yn gweithio yn y diwedd a dyna oedd yn cyfri.

Yr Orendy, Stryd y Farchnad AberystwythRoedd AVH wedi dweud ei fod ef a SW yn mynd i gael cinio yn y dref, ond pan ddaeth yr alwad i ymuno â hwy roeddwn yn brysur, felly dyma drefnu i gwrdd am goffi yn nhafarn Varisty wedi cinio. Erbyn hyn roeddwn i wedi bod i weld GC ac fe ddaeth hi gyda mi yn gwmni. Buom yn siarad am ryw awr yno cyn i AVH a SW fynd am adref. Ond roedd hi'n llawer rhy braf erbyn hyn i fynd yn ôl i'r tŷ, felly wedi diod yn Varsity fe drefnodd GC a finnau i gwrdd yn yr Orendy wedi gwneud negeseuon yn y dref. Doedd hi ddim wedi bod yn yr Orendy o'r blaen ac felly dyma'i chyfle. Wedi imi fod yn llungopïo'r cyhoeddiadau ar gyfer y Sul fe ddes i yn ô i'r Orendy a chael Americano i'w yfed. O fewn dim roedd GC yno gyda TLlJ a MLJ a DC. Dyma pawb yn cael rhywbeth i'w yfed a fe gafwyd platiaid o olifau a bara gyda olew'r olewydd a finegr.

Rhagor o luniau o'r Orendy, Aberystwyth.