Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2005-06-16

Prosiect yn parhau

Siop Gofal Traed Aber, Y Porth Bach, AberystwythMae fy mhrosiect i dynnu llun pob siop yn Aberystwyth (ardal Cyngor Tref Aberystwyth i fod yn fanwl gywir - felly fe fyddaf yn ymweld â Phenparcau rhyw ben) yn parhau. Ychwanegwyd mwy o siopau ato neithiwr. Ar hyn o bryd mae gen i luniau 91 o siopau. Bydd rhai yn dweud nad yw pob un yn siop. Dwi'n fodlon derbyn hynny - mae rhai yn fusnesau, ac eraill yn "swyddfeydd" - ond ar hyn o bryd dwi'n eu categoreiddio nhw i gyd fel siopau. Mae'n siwr y daw cyfle i'w didoli'n fanylach cyn bo hir. Yn ogystal â'r prosiect siopau, dwi wedi cychwyn hefyd prosiect caffis, tafarndai a bwytai Aberystwyth.

SYLWER! Nid yw'r prosiectau yma yn derbyn unrhyw nawdd cyhoeddus o gwbl. Mae'r cyfan yn waith gwirfoddol.

Prosiect siopau Aberystwyth.

Prosiect caffis, tafarndai, a bwytai Aberystwyth.