Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2005-06-16

Troednodyn mewn hanes

Golwg 2005-06-16Ydych chi wedi prynu Golwg yr wythnos hon? Fe ddylech chi. O'r diwedd dwi wedi cyrraedd rhywle, dwi'n droednodyn mewn erthygl yn y cylchgrawn yn ymwneud â blogio. Er lleied y troednodyn, eto mae'n ddigon i fwydo fy ego i ac fel y gŵyr darllenwyr y blog hwn ond yn rhy dda mae maint fy ego yn bwysig i mi. Mae'n fwy nag un rhai pobol, wrth gwrs, ond yn llawer llai nag un pobol eraill, diolch byth. Cafodd blogwyr eraill fwy o le yn y erthygl na mi, ond dwi ddim yn chwerw nag yn dwistiedig oherwydd y peth. Achos roedden nhw'n haeddu eu lle; arloeswyr fel Morfablog a Rwdls Nwdls. Yr hyn a wnaeth fi'n falch iawn oedd y ffaith iddyn nhw ddewis cynnwys dau o'm lluniau yn yr erthygl - swper hyfryd GC ac arwyddion ar y bont yn Nhregaron. Mae ond yn profi'r hen ddihareb, "Tynnwch chi lot o lunie ac mae rhywun siwr o licio un neu ddau".

Golwg 2005-06-16 - Fy nhroednodyn i!Mae Nic Dafis, Mr Morfablog, yn dweud rhai pethau diddorol iawn yn yr erthygl. Nic hefyd yw Mr Maes-e sef un o'r datblygiadau pwysicaf a mwyaf difyr a diddorol ym myd trafodaeth gyhoeddus yn y Gymru Gymraeg dros y blynyddoedd diwethaf. Fforwm sy'n bodoli o achos buddsoddiad unigolyn gyda chefnogaeth y gymuned. Mae'n dda ei fod e wedi gweld y gallai rhywbeth felly weithio yn Gymraeg. Dyma beth sy gan Nic i'w ddweud ar y pwnc:
"Yn y byd go iawn mae Saesneg yn boddi'r Gymraeg, ond mae'r fforymau yn gwmws fel pentre neu gymuned. Mae'r Fro Gymraeg ar y We wedi bod yn help mawr i mi i ddysgu'r iaith.

"Mae mwy o bobol yn byw yn Maes-e nag yn Llangrannog, felly mae e'n fwy naturiol i mi sgwrsio ar-lein yn lle mynd i'r dafarn leol, achos prin iawn yw'r Gymraeg yn fan yna!

Dyw e ddim yn beth rhyfedd nawr i weld Cymraeg ar y We - mae'n datblygu i fodyn rhywbeth naturiol."