Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2005-06-15

Dim embaras pellach

Rhewgist siop Spar, Ffordd-y-môr, AberystwythMae pawb yn bwrw mewn i'r Spar 24-awr rywbryd neu'i gilydd. Mae mynd heibio i'r rhewgist fawr wastad yn achos cynnwrf ynof fi. Ceir cymaint o bethau rhyfedd yn cwato yno gyda'r cyffredin. Fel arfer rydw i'n rhy embarasd i aros ac edrych ac edrych yn y rhewgist. Ond heddiw fe deimlais yn ddigon hydreus nid yn unig i edrych ac edrych ond i dynnu ffotograffau hefyd o gynnwys y rhewgist. Yr hyn sy'n taro dyn yn gyntaf oll yw pa mor llachar yw'r deunydd pacio o gwmpas y bwyd. Mae'n gwneud i rywun edrych arno. Dyna pam dwi'n cael fy nenu i brynu rhywbeth oddi yno yn gyson er 'mod i ond wedi dod mewn i'r siop i gael llaeth! Ond hefyd mae undonedd y lliw hefyd yn drawiadol gyda'r pys a'r llysiau yn wyrdd - yn hollol wyrdd. Does dim rhaid ichi fod ag embaras bellach oherwydd gallwch edrych ar gynnwys y rhewgist wrth eich hamdden.

Rhewgist siop Spar, Ffordd-y-môr, Aberystwyth.