Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2005-06-20

Beth!!?

Dwi ddim yn gwybod faint o bobol sy'n defyddio Google i chwilio am flog dogfael, ond fe wnes i abrawf neithiwr i weld beth oedd yn digwydd wrth chwilio am "dogfael" gyda Google. Cefais sioc, cefais siom. Cred Google fod 'na bosibilrwydd eich bod wedi gwneud camgymeriad teipio ac felly mae'n cynnig cywiro'r gair ichi. A chynnig Google fel cywiriad ar Dogfael yw "Did you mean: dogfart." "No, I most certainly did not!" yw fy ateb i i'r cwestiwn anfoesgar hwwnw. Dwi'n ddarllenydd lleyg yn yr Eglwys yng Nghymru, diolch yn fawr iawn ichi!