 A finnau'n dechrau poeni fod bywyd yn mynd yn ddiflas fe ddaeth pecyn drwy'r post heddiw gyda fy nghwrs dysgu Iseldireg ynddo - Nederlands voor anderstaligen [=Iseldireg ar gyfer y rhaid nad ydynt yn siaradwyr bordorol]. Roeddwn i wedi meddwl fod 'na broblem achos roeddwn i wedi bod yn disgwyl a disgwyl am iddo ymddangos. Ond heddiw fe ddaeth. A dwi ddim wedi cael fy siomi o gwbwl. Mae'n cynnwys popeth fyddai ei angen arnoch chi i ddilyn cwrs iaith: y cwrs ei hun mewn ffolder sgleiniog; CDau i fynd gyda'r cwrs; ffurflenni gwaith cartref; amlenni ar gyfer anfon yn ôl eich gwaith cartref at eich tiwtor neu fentor; tâp er mwyn recordio'ch hun yn llefaru Iseldireg er mwyn derbyn sylwadau'r tiwtor ar eich acen; cyfarfwyddyd am sut i astudio ar eich pen eich hun (er mae hwn i gyd mewn Iseldireg a bydd hi'n rhaid imi orffen y cwrs er mwyn medru ei ddeall!). Roedd na feiro yn y pecyn hefyd er mwyn dechrau'r gwaith yn syth. Heno dwi'n mynd i fwynhau bywyd hyd yr eithaf!
A finnau'n dechrau poeni fod bywyd yn mynd yn ddiflas fe ddaeth pecyn drwy'r post heddiw gyda fy nghwrs dysgu Iseldireg ynddo - Nederlands voor anderstaligen [=Iseldireg ar gyfer y rhaid nad ydynt yn siaradwyr bordorol]. Roeddwn i wedi meddwl fod 'na broblem achos roeddwn i wedi bod yn disgwyl a disgwyl am iddo ymddangos. Ond heddiw fe ddaeth. A dwi ddim wedi cael fy siomi o gwbwl. Mae'n cynnwys popeth fyddai ei angen arnoch chi i ddilyn cwrs iaith: y cwrs ei hun mewn ffolder sgleiniog; CDau i fynd gyda'r cwrs; ffurflenni gwaith cartref; amlenni ar gyfer anfon yn ôl eich gwaith cartref at eich tiwtor neu fentor; tâp er mwyn recordio'ch hun yn llefaru Iseldireg er mwyn derbyn sylwadau'r tiwtor ar eich acen; cyfarfwyddyd am sut i astudio ar eich pen eich hun (er mae hwn i gyd mewn Iseldireg a bydd hi'n rhaid imi orffen y cwrs er mwyn medru ei ddeall!). Roedd na feiro yn y pecyn hefyd er mwyn dechrau'r gwaith yn syth. Heno dwi'n mynd i fwynhau bywyd hyd yr eithaf!I weld cynnwys fy mhecyn Iseldireg.
 Dwi'n teimlo braidd yn euog am fy ymateb i'r pecyn. Dwi'n siŵr braidd fy mod wedi ymateb iddo fel buasai rhai pobol yn ymateb i dderbyn pecyn o lyfrau neu fideos pornograffig trwy'r post. Dwi wedi bod yn byseddu'r cynnwys yn ddidrugaredd, yn edrych ar bob elfen ac yn mwynhau pob agwedd ar y pecyn a'i gynnwys. Gobeithio'n wir nad af i'n gaeth i Iseldireg ac y bydd angen help proffesiynol arna i i ddod yn rhydd o'i chrafangau. Dwi am barhau i fwynhau y bywyd cymdeithasol yr oeddwn yn ei fwynhau o'r blaen - wrth gwrs dwi'n siŵr fuasai rhwyun ifanc a thredni fel Lisa Reich yn dweud nad oedd dim i'w fwynhau yn fy mywyd cymdeithasol blaenorol. Ond dwi ddim yn dechrau heno. Nos yfory byddaf yn cymryd y camau cyntaf ar fy nhaith tuag at Iseldiregeiddiwch. Dwi ddim yn credu y bydd galw imi fynd i ddinas Cluj am dipyn.