Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2005-06-22

Croeso i Cluj

Mae pethau yn reit gyffredin ar hyn o bryd - mewn geiriau eraill does dim rhyw lawer iawn o ddim byd cyffrous yn digwydd. Petawn yn dilyn cyngor MS i mi yn yr Orendy heno fe fyddwn yn mynd ati i ddyfeisio ychydig bach o hanes i roi gwedd mwy egsotig a deniadol i fy mywyd. Dwi ddim yn siŵr am wneud hynny ond dwi wedi dweud ar fwy nag un achlysur petawn i'n mynd ati i ysgrifennu fy hunangofiant y byddwn yn gwneud yn siŵr ei fod yn ddiddorol. Efallai y byddai hynny'n golygu cadw at y gwir ond efallai nid at union ffeithiau fy mywyd. Ond man a man imi gyfaddef yn yn gwbl agored nawr petai 'na gyfeiriad at ddinas yn Romania o'r enw Cluj fe fyddaf wedi cychwyn ar y broses o ychwanegu ychydig sbeis i fy mywyd!

Pan roeddwn i'n gweithio fel llyfrgellydd ysgol a chymuned LLanhari ym Morgannwg Ganol, fe ddechreuais ychwanegu at ffeithiau fy mywyd er mwyn rhoi rywbeth i'r myfyrwyr ysgol yn Ysgol Gyfun Llanhari i feddwl amdano. Fe ddechreuais i ddweud am fy magwraeth yn Cluj, Romanai a fy mod yn dychwelyd yno dros wyliau'r Nadolig bob blwyddyn er mwyn rhannu'r ŵyl honno gyda fy nheulu yn y ddinas. Roedd 'na fan gwan amlwg yn y stori a fuasai'n amlwg i unrhyw un oedd yn gyfarwydd â thraddodiad Eglwysi Uniongred y Dwyrain - oherwydd eu bod yn defnyddio calendar eglwysig gwahanol nid yw Nadolig Romania fel arfer cyd-daro â Nadolig y gorllewin, ond wnaeth yr un o'r myfyrwyr nodi hyn'na. Wrth gwrs mae'n gwbl bosib nad oedden nhw wedi sôn am hynny am nad oedden nhw am codi cywilydd arna i! Os felly, diolch iddyn nhw am fod mor ystyriol o fywyd ffanatsïol dyn a ddylai fod wedi gwybod yn well.