
Mae'n rhyfedd fel mae digwyddiad fel hyn yn medru dod â hen bethau i'r cof. Roeddwn i'n cofio'r tro diwethaf i fi gael fy hun yn Llundain a gorfod mynd at yr heddlu yn Chwefror 1996. Roedd rhywun wedi dwyn fy mhwrs arian a finnau heb ddim modd i gael arian ond roedd gennyf fy nhocynnau ac roeddwn ar fy ffordd adref i Aberystwyth y noson hynny ac felly doedd dim i'w ofidio amdano. Ond dyna'r union noson y penderfynodd yr IRA osod bom ger gorsaf Euston. O ganlyniad canslwyd/collais i trên olaf 'nôl i Aberystwyth.

Erbyn hyn dwi'n edrych 'nôl ar y digwyddad fel yr amser pan geisiodd Gerry Adams fy lladd.
Bu'n rhaid i fy nghyfeillion wrando ar hyn'na i gyd yn y bar coffi ar orsaf y Stryd Newydd, Birmingham. Diolch byth am yr holl fariau coffi sydd ar gael erbyn hyn i dawelu'r nerfau. Doedd dim y fath bethau i'w cael yn 1996! Diolch i'r rhai wnaeth wrando ar hyn'na i gyd oherwydd ar ôl imi weithio fy ffordd trwy fy nhrawma fe ddechreuais deimlo'n well. Erbyn cyrraedd Aberystwyth roedd yr atgofion melys am y gwyliau ar flaen fy meddwl. A galla' i ond gweddïo y bydd y rhai wnaeth ddwyn fy llyfrau Iseldireg yn eu defnyddio i ddysgu Iseldireg (os nad ydynt yn gwybod Iseldireg yn barod) ac wedyn yn darllen y Beibl ac y bydd hynny'n gwneud gwahaniaeth i'w bywydau. Wedyn ni fyddai'r hyn ddigwyddodd wedi bod heb ryw bwrpas neu ddaioni.
A dyna ddiwedd fy hanes i a'm cyfeillion annwyl yn Fflandrys.
Y holl luniau o chweched diwrnod y gwyliau.