Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2005-06-13

Dydd Sul

Adeilad Parry-Williams, Prifysgol Cymru AberystwythRoedd Dydd Sul yn llai prysur na'r arfer oherwydd nid oeddwn yn pregethu. Ond roedd yn dechrau yn gynt nag arfer gyda rhaglen Bwrw Golwg Radio Cymru am 8.30am. Mae stiwdio'r BBC yn Adeilad Parry-Williams ar gampws y brifysgol. Mae'r cyflwynydd JR wastad yn fywiog ac yn gofyn y cwesitynau anodd hynny mae dyn yn ceisio eu hosgoi. Heddiw wrth drin a thrafos sefydlu y pwyllgor ymghynghorol Archesgob Caergaint ar gyfer ceisio cymodi mewn sefyllfaoedd o anghydfod o fewn i'r Cymuneb Anglcanaidd dyma fe'n gofyn a oedd y pwllgor yn mynd i lwyddo i gadw'r cymuned at ei gilydd. Dwi'n ofni imi gael fy stwmpio yn lân!

Eglwys S. Mair, AberystwythO'r stiwdio dyma ddychwelyd i lawr i'r dref i fynd i wasanaeth y Cymun Bendigaid yn Eglwys S. Mair. Mae'r rheithor wedi bod yn pregethu cyfres o bregethau ar lyfr 1 Pedr yn y Testament Newydd dros yr wythnosau diwethaf. Heddiw roedd yn edrych ar 1 Pedr 3.8-22. Roedd ei bregeth yn ymwneud â rhagrith, y cyhuddiad sy'n digwydd wastad yn erbyn Cristnogion ac yn delio gyda bod yn gyson yn ein bywydau gerbron yr eglwys, gerbron y byd a gerbron Duw. Roedd yn dda iawn ac yn annogol iawn yn ei agwedd. Fe ddywedodd pa mor anodd yw hi i fod yn Gristion gerbron y byd - os ydych chi'n ceisio cadw at eich safonau rydych yn cael ei cyhuddo o fod yn hunan-gyfiawn ac yn "sancteiddiach-na-chdi", ac os yn methu i gadw at y safonau yna rydych chi'n rhagrithiwr!