Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2005-06-14

Diwrnod hir - campws PCA

Codi adeilad newydd yr Adran Wleidyddiaeth Rynwladol, PCA, AberystwythWrth fy mod wedi mynd i stwidio'r BBC y bore 'ma yn gynnar roedd yn rhaid imi gerdded 'nôl drwy'r campws i'r gwaith. Mae'r campws yn llawn atgofion a phethau newydd annisgwyl i mi. Mae cymaint mwy o adeiladau yno nag oedd yn 1978-1981 pan roeddwn i'n fyfyriwr yn Aberystwyth, ond mae sut gymaint yn fwy o fyfyrwyr yma hefyd. Dwi'n ofni fy mod i'n casáu'r darn celf ar ffurf grisiau ar y darn tir o flaen Canolfan y Celfyddydau. Mae'n fy nghythruddo bob tro - ond mae'n wir ei fod yn ymdoddi i'w amgylchedd yn dda iawn! Mae gweld y adeilad newydd yr Adran Wleidyddiaeth Ryngwladol yn codi yn fy atgoffa o'r ymgyrch i enwi'r adeilad ar ôl Gwynfor Evans - wnawn nhw ddim wrth gwrs, nid dyna sut mae pethau'n gweitho yn y coleg. Fyddan nhw ddim mor ffôl â'i enwi ar ôl rhywun o'r tu fas i Gymru, dybiwn i. Felly mae'n debyg taw David Lloyd George neu David Davies (yn ddiweddarch, Arglwydd Llandinam) gaiff y fraint - ac mae 'na resymau hanesyddol efallai dros grybwyll enwau'r ddau yna, ond byddai enwi'r lle ar ôl Gwynfor Evans yn gwneud datganiad rhyw fath o ddatganiad lle mae ffocws Prifysgol Cymru Aberystwyth wrth astudio pwnc fel Gwleidyddiaeth Ryngwladol. A yw'n edrych allan o Gymru i'r byd gyda phrofiad cenedl fechan yng nghanol byd o bwerâu mawrion, ynteu atodiad yw Cymru yn yr holl beth? Gobeithio'n fawr fy mod yn anghywir.

Un peth wnes i sylwi arnynt oedd y toreth o flodau sy'n brithio'r campws. Fe welais gwnigen a gwiwer - ond doeddwn i ddim yn ddigon cyflym gyda'r camera i dynnu llun yr un o'r ddwy.

Rhagor o luniau o Brifysgol Cymru Aberystwyth, gan gynnwys campws Penglais.