 Dwi ddim am swnio fel tasen i'n ychydig yn od, ond dwi wedi cymryd ffansi at focs bwyd IBJ. Mae'n ddeniadol iawn, fel y tystia'r lluniau dwi'n gobeithio. Pan welais y bocs gynta 'rioed fe wnaeth fy nharo - baner Llydaw yn glir mewn du a gwyn - dyna yw ei henw mewn Llydaweg, Gwenn ha Du. Fe ddaeth DC a SE â'r blwch yn ôl o Lydaw ar ôl eu gwyliau yno, ac yn ôl a ddeallaf i yr oedd yn llawn bisgedi ymenyn Llydewig. Mae Llydaw yn enwog am ei bisgedi, yn arbennig felly Traoù mad.
Dwi ddim am swnio fel tasen i'n ychydig yn od, ond dwi wedi cymryd ffansi at focs bwyd IBJ. Mae'n ddeniadol iawn, fel y tystia'r lluniau dwi'n gobeithio. Pan welais y bocs gynta 'rioed fe wnaeth fy nharo - baner Llydaw yn glir mewn du a gwyn - dyna yw ei henw mewn Llydaweg, Gwenn ha Du. Fe ddaeth DC a SE â'r blwch yn ôl o Lydaw ar ôl eu gwyliau yno, ac yn ôl a ddeallaf i yr oedd yn llawn bisgedi ymenyn Llydewig. Mae Llydaw yn enwog am ei bisgedi, yn arbennig felly Traoù mad.Rhagor o luniau o flwch Llydaw IBJ.
 
