Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2005-06-14

Diwrnod hir - cyfarfod CYIG

Canolfan Genedlaethol Merched y Wawr, AberystwythAr ôl dod adref o'r gwaith fe alwais heibio i GC a IBJ i weld beth oedd hanes ACD. Roedd wedi cael y driniaeth yr oedd ef wedi'i disgwyl yn Ysbyty Bronglais ac wedi dod adref nawr i gymryd y moddio sy'n gysylltiedig â'r driniaeth dros y mis nesaf. Ond ches i ddim llawer o amser i siarad gan fod y teulu bach ar y ffordd i gyngerdd yr Ysgol Gymraeg. Roeddwn i'n brysur 'ta beth gan fy mod yn mynd i gyfarfod o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg yng Nghanolfan Merched y Wawr yn Stryd yr Efail. Dwi wastad yn teimlo rhyw ias wrth fynd i'r ganolfan oherwydd yr oedd yn arfer bod yn gapel, Capel Penmaesglas a sefydlwyd gan ddyn o Sir Benfro, sef Azariah Shadrach - awdur nifer sylweddol o weithiau defosiynol. Cafwyd cyfarfod gwerthfawr ac mae'r frwydr yn parhau... yng Ngherdigion. Ymlaen i fuddugoliaeth!