Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2005-06-16

Siopau Spar

Weithiau dwi'n teimlo fod pobol yn gweld fy ymlyniad at siopau Spar yn beth od. Wel nid fi yw'r unig un sy'n dwli arnyn nhw gyda brwdfrydedd. Dwi newydd ddarganfod fod grŵp ar flickr.com sydd yn casglu ynghyd lluniau siopau Spar - grŵp smotwyr siopau Spar. Mae smotio trenau ar gyfer wimpiau, mae smotwyr go iawn yn smotio siopau Spar!

I'r rhai ohonch chi'n sy'n holi 'pam?' wel mae'r esboniad yn mynd yn ôl dros ugain mlynedd i'r cyfnod pan gefais fy hun yn fachgen ifanc unig a diniwed ym mhrifddinas fawr a dieithr Llydaw, Roazhon. Ar ben fy hun, a'r unig beth adnabyddus oedd y siop Spar ffeindiais i dafliad carreg o gampws Prifysgol Llydaw Uchaf yn Ker-Yann.

Grŵp smotwyr Siopau Spar ar flickr.com.