Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2005-06-25

Cyfarfod yn Llandrindod

Baneri, Swyddfeydd Llywodraeth y Cynulliad Cenedlaethol, LlandrindodYr wyf fi'n perthyn i undeb llafur o'r enw Prospect a heddiw roedd RP a finnau yn mynd i gyfarfod o Gangen Cymru sef gweithwyr proffesiynol ac arbenigol yn y sefydliadau canlynol: Gwasanaeth Sifil Llywodraeth y Cynulliad Cenedlaethol, y Llyfrgell Genedlaethol, yr Amgueddfa Genedlaethol, Amgueddfa Werin Cymru, Comisiwn Henebion, Arolygwyr Safonau Gofal. Mae'r undeb yn gyfuniad rhyfedd o weithwyr yn y sector cyhoeddus a phreifat, gweithwyr mewn sefydliadau diwylliannol ac etifeddiaeth, gweithwyr yn y weinyddiaeth amiddyffyn ac gweithwyr sy'n rheoli cynhyrchu trydan (ynni niwclear)! Nid yw'r undeb wedi affiliadu ag unrhyw blaid wleidyddol. Mae gan Prospect Cymru swyddfa yng Nghaerdydd lle mae un swyddog llawn-amser yn gweithio. Oherwydd fod pawb yn gweithio yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol i Lywodraeth y Cynulliad rydym yn dueddol o gyfarfod yn swyddfeydd Llywodraeth y Cynulliad. Heddiw roeddem yn cyfarfod yn swyddfeydd Llandrindod.

Plac ar y wal, Swyddfeydd Llywodraeth y Cynulliad, LlandrindodWrth fynd i mewn i'r swyddfeydd roedd 'na blac ar y wal yn nodi fod y dderbynfa wedi'i chodi a'i hagor yn ystod oes y Cynulliad Cenedlaethol, a'r gweinidog a oedd yn gyfrifol am agor y lle oedd yr enwog Christine Gwyther. Doedd dim rhyw lawer yn y cyfarfod ond roedd yn ddigon diddorol. Cawsom ni ginio yn y ffreutur yno hefyd, ac yr oeddem ni yn ôl yn Aberystwyth erbyn rhyw 5.00pm. Diolch i RP fe gefais lifft ganddo i'r tŷ.