Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2005-06-09

Bar newydd yn Aberystwyth

DJP yn mwynhau glasiad o win yn yr Orendy, AberystwythAr ôl wythnosau o ddisgwyl mae bar newydd wedi agor yn yr hen Talbot Hotel, The Orangery neu'r Orendy yw ei enw. Os ych chi'n hoff o lefydd sy'n llawn o gadeiriau esmwyth lledr neu gadeiriau cefn uchel mewn wicer, yna dyma'r bar i chi yn Aberystwyth bellach. Ar ôl gwaith heddiw fe alwodd DJP a finnau heibio i weld sut le oedd yno ac fe wnaeth DML ymuno â ni. Roedd teimlad newydd ffres am y lle ac roedden nhw'n gwneud pethau bach eithaf blasus roedden nhw'n eu galw yn 'tapas'. Cefais i ddetholiad o olifau, ac fe gafodd DJP a DML bruschetta. Mae'r cyfan yn dod am bris wrth gwrs! Mae'n lle iawn a dwi'n siwr y bydd yn boblogaidd iawn gan rai pobol yn Aberystwyth. Gobeithio y bydd yn lle dechau i gael coffi ar ôl gwaith yn dilyn penderfyniad Mecca i gau am 6.00pm a chymryd archebion olaf am 5.30pm. I'r rhai sydd yn poeni am beth felly roedd 'na gerddoriaeth yn canu yn y cefndir - roedd hwn yn rhy uchel yn fy marn i, ond pan ofynnais am ei droi i lawr fe wnaethpwyd hynny. Dyna arwydd arall y gallai hwn fod yn lle reit dda.

Rhagor o luniau o'r Orendy, Aberystwyth.