Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2005-06-25

Pen blwydd RPL

Y gacen ben blwyddRoedd heddiw yn ddiwrnod arbennig iawn i RPL - ei ben blwydd yn ddeugain mlwydd oed. Cefais wahoddiad i'r parti ac ar ôl gweld pwy oedd yno roeddwn i'n teimlo fy mod wedi cael braint. Roeddwn i wedi mynd yn gynnar am ryw 3.00pm. Roeddwn i wedi mynd yn gynnar yn y gobaith na fyddwn yn aros yn rhy hir gan fod gen i gymaint o waith i'w wneud. Yn y diwedd fe aeth y bwriad hynny'n ddim gan imi aros ac aros ac aros. Roedd y parti yn dda iawn - cwmni da, bwyd da, tywydd da, a gwesteiwr perffaith. Er bod pawb yn gwadu'r peth mae'n amlwg nad oes neb yn medru anghofio fod partïon pen blwydd yn ein hatgoffa ein bod yn heneiddio a bod dim troi 'nôl i'w gael. Felly mae pawb yn gwneud jôcs am y peth! Fe wnes i adael y parti am 6.30pm ar yr union amser yr oedd Dr MWR, Dr HW, Elwyn a PapLl yn cyrraedd, ond roedd yn rhaid mynd rywbryd!

Rhagor o luniau o barti pen blwydd RPL.