Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2005-06-06

Cinio ac ACD eto

Marchnad y Ffermwyr, AberystwythAmser cinio dyma gyfarfod gyda RO yng Nghaffi Upper Limit Café. Cael cinio yna edrych o gwmpas marchnad y ffermwyr oedd yn ei lle arferol yn Rhodfa'r Gogledd. Wnes i ddim prynu dim byd ond fe gafodd RO dorth o fara ar un o'r stondinau a chwedyn es i lawr i'r Prom. Doedd hi ddim yn ddiwrnod arbennig o braf, ond roedd 'na nifer go dda yn cerdded ar Prom. Mae hi'n ddiwedd y tymor ac roedd nifer o bobol oedd yn ymddangos fel myfyrwyr a'u rhieni yn cerdded yno - wrth gwrs glywais i'r un gair o Gymraeg o enau unrhyw un oedd yn edrych fel myfyriwr. Dwi'n danto weithiau gyda'r Brifysgol, i ddweud y gwir dwi'n danto yn gyson.

Gwylan, AberystwythFe welais i ddigon o wylanod ar y Prom hefyd, a doedd y rheiny chwaith ddim yn siarad Cymraeg! Mae pethau'n mynd o ddrwg i waeth. Wedi cerdded y prom fe es i'n ôl i'r fflat a galw heibio i'r cymdogion; ond doedd neb i fewn, heblaw am ACD yn gorffwys yn ei wely lan lofft. Doeddwn i ddim wedi gweld ACD ers cyn mynd i Wlad Belg felly roeddwn i'n falch o'i weld yn edrych yn well na'r pryd hynny. Roedd yn siarad yn ddifyr fel arfer am y peth hyn a'r peth arall, ac fel arfer roedd ganddo amynedd i wrando ar y dwli oedd gen i.