Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2005-06-06

Barbeciw yn Llanbedr Pont Steffan

Plaza Gwynfor EvansCefais ddydd Sul gwahanol i'r arfer ddoe, onde ddechreuodd yn ddigon arferol gyda gwasanaeth y Foreol Weddi yn Eglwys S. Mair, Aberystwyth. Ond wedyn roeddwn i'n mynd lawr i Lanbedr Pont Steffan i farbeciw yn nhŷ RP, un o'm cydweithwyr. Roeddwn i'n bwriadu mynd lawr ar y bws - gwasanaeth X40 Aberystywth-Caerfyrddin yn gadael yr orsaf am 1.00pm ac yn dychwelyd o Lanbedr Pont Steff am ryw 10.00pm - gan olygu diwrnod hir. Jyst cyn 12.00 fe ges neges destun oddi wrth DJP i ddweud na fyddai'n ôl yn Aberystwyth ar gyfer cinio a dyma ffonio Dr HW a RO i ddweud hyn, a dyma RO yn cynnig lifft imi lawr i Lanbedr. Doeddwn i ddim am wrthod cynnig mor hael â hynny. Ar ein ffordd dyma alw yn Aberaeron i gael cinio yn y Monachty Arms Hotel - felly byddai dim angen cymaint â hynny o ffrwyth y barbeciw arna i.

Pawb yn y geginDaeth tyrfa go lew ynghyd yn Llanbedr - cydweithwyr yn bennaf, ond gyda un neu ddau yn ychwanegol. Pan gyrhaeddais i roedd hi'n jyst yn dechrau pigo'r glaw; fe aeth yn waeth. Ond wnaeth hynny ddim sbwylio dim ar yr hwyl. Cefais i gadair mewn rhywle sych dan do, ac fe wnes i aros yno yn ddigon hapus a sych drwy'r prynhawn. Roedd RP a Chris wedi paratoi gwledd o fwyd a phobl eraill wedi cyfrannu hefyd. Roeddwn i wedi bwyta cinio yn gwmni i RO felly fe ges i fyrger, ond ddim byd arall o werth heblaw am bwns cynnes AD. Roedd y pwns yn cynnwys sinsir a chlofys ac yn eich twymo i gyd y tu fewn - roedd ei angen yng nghanol y glaw 'na i gyd. Daeth RO yn ôl heibio cyn diwedd y prynhawn ac fe es gydag ef am Aberystwyth.

Rhagor o luniau o'r barbeciw yn nhŷ RP, Llanbedr Pont Steffan.