Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2005-06-08

Canolbwynt y bydysawd

Aberystwyth o Ben-y-graigRhyw wythnos 'nôl ar y teledu roedd 'na raglen ddogfen am pam fod pobol yn dewis symud i fyw yng Nghaerdydd - roedden nhw i gyd yn ymddangos yn smug iawn i fi wrth sôn am ba mor ffantastig oedd hi i fyw ym mhrifddinas gyffrous mwyaf ifanc Ewrop. Wel dwi'n ofni fy mod i'n mynd i ymddangos yr un mor smug os nad yn fwy felly heddiw wrth sôn am Aberystwyth, canolbwynt y bydysawd. Beth sydd wedi achosi'r fath ewfforia? Wedi'r gwaith roedd yn rhaid imi alw heibio i bencadlys Cyngor Llyfrau Cymru ac roedd yr olygfa o'r dref o fan'ny yn ogoneddus. Ydw, dwi'n byw yn un o'r trefi prifysgol glan-môr prydferthaf yn Ewrop! Bendigedig fyddo enw'r Arglwydd!

Rhagor o drefluniau o Aberystwyth.