
Mae addo rhywbeth i rywun yn gymaint haws na gwneud y peth hynny. Mae'n ddydd Llun heddiw, ac o nawr tan ddiwedd y mis dwi'n
Dweud fy nweud ar
Radio Cymru. Mae hynny'n meddwl poeni am beth ych chi'n mynd i'w ddweud, ei ysgrifennu, a chyrraedd y stiwdio ar gampws
Prifysgol Cymru Aberystwyth erbyn 7.00am. Wrth gyrraedd ys stiwdio yn gynnar dwi'n medru cerdded 'nôl drwy'r campws i'r gwaith. Ac fe welais i rywbeth i godi calon heddiw, sef sloganau ar y walydd yn galw am
goleg ffederal ac addysg Gymraeg yn gyffredinol o fewn i'r coleg/prifysgol. Wrth fynd yn hŷn mae gweld gwrthryfelgarwch ieuenctid yn cyffroi dyn.
Gyda llaw tu ôl i'r wal lle mae'r slogan mae pencadlys newydd
Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol y Brifysgol yn cael ei adeiladu.
Rhagor o luniau graffiti ar gampws Prifysgol Cymru, Aberystwyth.