Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2005-06-14

Diwrnod hir - codi'n gynnar

Stiwdio'r BBC, Campws PCA, AberystwythFe ges i liffi 'nôl o'r gwaith gan CGw, ac roeddwn i wedi blino'n lân. Bore 'ma roeddwn i'n gwneud pwt Dweud fy nweud ar Radio Cymru. Dwy funud o sylwadau ar ganol rhaglen newyddion y bore - Post cyntaf. Mae'n swnio'n hawdd, ond mae'n lladdfa a bob tro dwi'n holi fy hun pam dwi'n ei wneud. Fe ddigwyddais ofyn hynny'n uchel heddiw wrth y ford ginio ac fe awgrymod DJP "Ego" fel ateb a dwi'n credu fod CGr wedi cytuno ag e! Efallai eu bod nhw'n iawn, mae'n rhaid fod rhyw elfen o hynny mewn unrhyw sy'n mentro gwneud dim yn gyhoeddus, ond mae'n dal i fod yn waith caled – meddwl am rywbeth i'w ddweud, bod yn gyfoes, ei ysgrifennu a mynd i'r stwidio erbyn 7.00am i'w ddarlledu. I ddweud y gwir doeddwn i ddim wedi llwyddo i feddwl am ddim byd neithiwr o gwbl, ac felly dyma godi am 5.30am y bore 'ma i feddwl o ddifrif am beth oeddwn i'n mynd i'w ddweud. Dyma wrando ar y radio a chlywed fod Michael Jackson wedi'i gael yn ddi-euog o bob cyhuddiad yn ei erbyn. Fe wnaeth hynny roi imi rywbeth i'w feddwl amdano, ac erbyn 7.00am roedd gen i rywbeth i'w ddweud. Diolch byth am Michael Jackson!