Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2005-06-08

Blog Dogfael yn newyddion!

Wel, mae blogiau yn newyddion a fy mlog i yn eu plith nhw. Cefais alwad ffôn y bore 'ma gan newyddiadurwr o'r cylchgrawn Golwg yn holi am pam a sut a beth Blog Dogfael. Y newyddiadurwr wnaeth fy ffonio i oedd Llinos Dafydd a gipiodd y goron yn Eisteddfod yr Urdd yr wythnos ddiwethaf. Felly cofiwch brynu eich copi yr wythnos nesaf i weld beth sy'n cael ei ddweud am y blog!