Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2005-06-20

Codi'n fore

Wrth y microffôn, Stiwdio'r BBC, AberystwythDydd Llun a dyma fi'n codi'n fore i Ddweud fy newud ar Radio Cymru y bore 'ma unwaith eto. Roeddwn i wedi penderfynu ers neithiwr beth fuasai'r thema - sef y ffair ddoe gydag anghofio'r ffôn a phregethu yn Ebener Penparcau, &c. Heddiw ches i ddim mynd i'r Geraint Lloyd swît i wneud fy narn. Na, y cwtsh oedd fy lle i heddiw eto. Dwi ddim yn gwybod beth oedd neb arall yn ei feddwl, ond roeddwn i'n ddigon hapus heddiw. Mae'n anodd gwybod beth i'w wneud yn aml iawn oherwydd dwi'n ceisio osgoi urhywbeth sy'n amlwg grefyddol, oherwydd yn yr oes sydd ohoni byddai hynny'n rhwystr yn y ffordd i rywun wrando ar beth sy gen i i'w ddweud. Weithiau dwi'n agored grefyddol ond dim ond pan bod angen bod. Ar y cyfan dwi ddim yn credu fod unrhyw un am bregeth gyda'i frecwast. Er dwi'n siŵr y gwnaiff rhywun f'atgoffa fy mod yn ddarllenydd lleyg yn yr Eglwys yng Nghymru a dyna yw fy mhriod waith.