Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2005-06-07

Tregaron

Arwyddion, TregaronNid dyna ddiwedd yr antur. Fe aethon ni yn ôl i Aberystwyth, ond trwy Dregaron. Fe ges i gyfle i gerdded rownd y dre a thynnu rhai lluniau. Dwi fel arfer yn meddwl am Dregaron fel rhyw ynys yng nghanol y gors - ond mae hynny am fy mod yn dod o gyfeiriad Aberystwyth fel arfer. Ond heddiw wrth ddod o gyfeiriad Llanbedr Pont Steffan roedd y lle yn teimlo'n llai anghysbell ac yn llai ynysig. Roedd 'na ddigon o bobol o gwmpas, ond heb geisio diflasu neb, roedd yr holl blant a phobol ifainc a welson ni yn siarad Saesneg â'i gilydd. Yn yr un modd fe wnaeth pawb wnes i siarad gyda nhw - tri unigolyn - ddechrau'r sgwrs yn Saesneg, er ei bod hi'n amlwg fod y tri ohonyn nhw'n medru'r Gymraeg i fi a fy mod i'n medru Cymraeg iddyn nhw. A oes unrhyw un ond Selotiaid ieithyddol yn poeni am sefyllfa felly? Un peth i ddod â gwên i'r wyneb yw'r cyfoeth o arwyddion ar y bont yn Nhregaron - diolch byth fod bywyd yn mynd yn ei flaen ychydig bach yn fwy araf yma achos mae'n rhaid i unrhyw yrrwr neu feiciwr aros a darllen am bum munud cyn dod o hyd i'r lle mae'n chwilio amdano!

Rhagor o luniau o Dregaron.