
Mae'r gwahaniaeth rhwng cenedlaethol Cymreig a chenedlaethol Prydeinig yn drawiadol bob amser, ac felly hefyd ym myd llyfrgelloedd. Mewn llyfrgelloedd cenedlaethol gwledydd llai eu trysorau eu hunain sydd ganddynt i'w harddangos, ond mewn llyfrgell genedlaethol gwladwriaeth ymerofraethol fe welir mwy o drysorau cenedlaethol gwledydd eraill bron, ac felly yma yn y Llyfrgell Brydeinig.

Mae ganddynt
15 trysor i'w brolio ac mae pob un yn werth ei frolio; ond mae hanner y rheiny yn bethau o'r tu fas i Brydain: Efengylau Lindisfarne (Lloegr); Diamon Sutra (China); Magna Carta (Lloegr); Qur'an Sultan Baybars (Yr Aifft); Haggadah Euraidd (Catalunya); Beibl Gutenberg (Yr Almaen); Llyfr nodiadau Da Vinci (Yr Eidal); Testament Newydd William Tyndale (Lloegr); Ffolio cyntaf William Shaekespeare (Lloegr); Ramayana (India); Cynllun Efrog Newydd Duke (Lloegr/Yr Iseldiroedd); Messiah Handel (Lloegr/Yr Almaen); Alice in Wonderland Lewis Carroll (Lloegr); llais Florence Nightingale (Lloegr); Dyddiadur Capten Scott (Lloegr). Mae popeth o Brydain yn perthyn i Loegr - efallai taw fel'na y dylai fod achos buasai digon o sŵn gen ipetaen nhw wedi dwyn ein trysorau ni i gyd hefyd.
Bues i'n chwilio yn y siop a chael i hyd i ddegau o bethau yr hoffwn eu cael, ond fe wnes i ymatal gan brynu dim ond un peth, sef
The British Library guide to printing: history and techniques gan Michael Twyman.
Fe dynnais i
ragor o luniau o'r Llyfrgell Brydeinig os oes diddordeb gan rywun.