Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2005-05-02

Gwesty Ibis Euston

Ystafell 275, Gwesty Ibis EustonRoeddwn i wedi archebu lle i aros trwy'r we yng ngwesty Ibis Euston. Mae'r lle yn agos iawn at yr orsaf a'r Llyfrgell Brydeinig - doeddwn i ddim wedi aros yno o'r blaen. Peidiwch â disgwyl y cyffyrddiad personol os ydych chi'n dewis aros mewn gwesty cadwyn fel hwn. Mae popeth yn iawn yn eich ystafell, ond rydych chi'n gwybod fod popeth yr un peth ym mhob ystafell ym mhob gwesty trwy'r byd i gyd. Fe dynnais lun o'r ddau goridor roedd yn rhaid imi eu cerdded er mwyn cyrraed ystafell 275 ac os ewch i edrych ar y lluniau eraill fe welwch beth dwi'n ei feddwl. Yn y llun o Ystafell 275 gwelir fy nghes llwyd i. Roedd y brecwast yn iawn, ond roedd yn rhaid talu £6 ychwanegol amdano!

Wedi cyrraedd Llundain a mynd i'r gwesty fe es i am dro o gwmpas yr ardal i chwilio am rywle diddorol i gymryd swper, ond yn y pendraw dyma gyrraedd 'nôl fwyty'r gwesty - yn anffodus fe wnes i anghofio tynnu llun y pryd bwyd!

Rhagor o luniau o westy Ibis Euston.