
Mae siop Grant & Cutler yn nefoedd i unrhyw un sydd â diddordeb mewn ieithoedd. Os oes 'na ramadeg neu eiriadur neu lyfr dysgu iaith ar gael fe ddewch chi o hyd iddynt yn siop Grant & Cutler. Roeddwn i'n chwilio am ddeunydd yn ymwneud ag Iseldireg, ac er bod ganddynt ddewis da doedd 'na ddim byd oedd o a ddefnydd imi ar hyn o bryd. Ond wrth fynd ar hyd y silffoedd fe allwn fod wedi gwario fortiwn yno. Cefais fy nenu yn arbennig gan gasgliad o lyfrau yn ymwneud â Chwrdeg - geiriadauron, gramadeg a chasgliad o daflenni oedd yn wersi Cwrdeg mewn Saesneg. Yn y diwedd roeddwn i wedi ymatal gan nad oedd gen i'r arian na'r amser i wneud dim adeiladaol gyda nhw. Dwi'n falch o fy ngallu i ymatal weithiau!