Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2005-05-01

Y daith i Lundain

Nid oes rhyw lawer iawn i'w ddweud am Lundain ei hun. Roeddwn i yno ar gyfer y gwaith, a chan fy mod wedi addunedu nad fyddwn byth yn sôn am waith ar y blog does dim i'w ddweud mewn gwirionedd.

Ond fe wnes i ddifyru fy hun gyda'r camera ar y ffordd i Lundain ar yn ôl. Yn ddiddorol iawn dwi wedi tynnu lluniau o arwyddion (pan roedd hynny'n bosib) pob gorsaf lle'r oedd y trên yn aros ar y ffordd. Lle nad oedd hi'n bosib tynnu llun o'r arwydd fe dynnais lun o'r blwr!


Gorsaf Borth
Wedi gadael Aberystwyth y lle cyntaf mae'r trên yn aros ynddo yw'r Borth. Pan fydda' i'n teithio o Aberystwyth fel arfer mae mwy yn gadael y trên yma nag sy'n esgyn. Ac felly'r oedd hi wrth deithio lawr i Lundain.

Cyffordd Dyfi
Mae'n rhaid bod rheswm dros aros yng Nghyffordd Dyfi, ond pwy fuasai'n dewis aros fan'yn i ddisgwyl am y trên os oedd cyfle i fynd ymlaen i Fachynlleth. Pan yn grwt ysgol fe ges i a chyfaill fy nal yng Nghyffordd Dyfi pan roedd y lle'n llawer mwy sbŵci - a dyma dau drên yn cael eu canslo a finnau'n credu y buaswn yn aros yng Nghyffordd Dyfi am weddill fy mywyd! Wrth gwrs fe ddaeth y trên yn y diwedd!

Gorsaf Machynlleth
Mae wastad llawer o bobol yn dod ar y trên ym Machynlleth - nifer fawr ohonyn nhw yn ystod yr haf yn dod o wersyll Butlins ym Mhwllheli. Y tro hwn dim ond rhyw ddyrnaid ddaeth ar y trên.

Gorsaf Caersws
Yr unig dro imi ddisgyn yng Nghaersws oedd pan es i weld Aberystwyth yn chwarae pêl-droed yn erbyn y tîm lleol. Fe fues i yma hefyd, ond nid ar y trên i weld y gofeb i Ceiriog a fu'n cadw'r orsaf.

Gorsaf y Drenewydd
Y tro diwethaf imi ddisgyn yma oedd i fynd i gynhadledd yng Ngregynog, ddechrau'r haf yn 2004.

Gorsaf  y Trallwng
Adeg Eisteddfod Meifod 2003 cyhaliwyd seremonïau'r orsedd nepell (neu, nid nepell) o'r orsaf yn y Trallwng. Ar ôl y seremoni pan gafodd DML ei urddo yn dderwydd fe ges i de yn hen adeilad yr orsaf sydd erbyn hyn yn ganolfan grefftau ac ystafelloedd te.

Gorsaf Amwythig
Pan oeddwn yn y coleg yn Aberystwyth roedd gorsaf Amwythig yn eithaf cyfarwydd, gan fod British Rail bryd hynny yn annog teithio trwy gynnig pob math o gynigion gostyngol ac fel myfyriwr roeddwn i ond yn rhy barod i gymryd mantais arnyn nhw.

Gorsaf Telford Central
Tref newydd yw Telford a sefydlwyd yn 1963. Mae'n rhaid ei bod wedi gweld cyfnodau o lewyrch gan fod adeiladau i'w gweld o'r trên sydd yn y steil dwi'n dueddol o'i alw'n 'Thatcheraidd'. Mae'r orsaf ei hun yn ddigon cyffredin. Ond yn aml iawn bydd pobol od yn dod ar y trên yma, pobol sy'n mynnu siarad â chi ond am bethau diflas neu ryfedd.

Gorsaf Wellington
Does gen i ddim i'w ddweud am orsaf Wellington gwbl.

Gorsaf Wolverhampton
Fe gyrhaeddodd y trén o Aberystwyth ddeng munud a mwy yn hwyr ac felly roeddwn wedi colli'r cysylltiad i Lundain a bu'n rhaid disgwyl yma yn Wolverhampton am awr a mwy. Cefais y cyfle felly i ddernyddio'r ystafell aros ar blatfform 4, platfform newydd ar gyfer y rhai sy'n teithio ar Virigin Trains oddi yma.

Gorsaf Sandwell & Dudley
Yn rhyfedd iawn Does gen i ddim chwaith i'w ddweud am orsaf Sandwell a Dudley!

Gorsaf Birmingham New Street
Dyma un o'r gorsafoedd mwyaf di-enaid y gwn i amdanynt. Does dim sydd wedi'i wneud i newid y lle wedi'i wella. Dim. Mae fel carchar neu bydew du, a bydda i fel arfer am ganu'r emyn Pan oeddwn i mewn carchar tywyll du nerth fy mhen. Wrth gwrs, fe fyddaf yn ymatal rhag ofn i'r British Transport Police fy symud i ymlaen!

Gorsaf Birmingham International
Dyma orsaf ryfedd iawn. Mae'n siwr fod llawer yn ei defnyddio er mwyn mynd i'r maes awyr. Ond mae'n llawer mwy diddorol pwy sy'n disgyn neu'n esgyn i fynd i'r National Exhibition Centre. Dwi'n cofio unwaith bod mewn cerbyd llawn yn dod o Lundain yn y bore a phawb ond fi yn darllen copi o Caged bird weekly. Dro arall dwi'n cofio pawb yn dod ar y trên wrth fynd am Lundain gyda'r hwyr yn darllen am gŵn. Fe fues i yma unwaith i'r Christian Resources Exhibtion - dwi ddim am fentro beth oedd pobol yn ei feddwl pan ddaethom ni ar y trên o'r digwyddiad hwnnw!

Gorsaf Coventry
Rhywbeth fel hyn yw Coventry go iawn. Fe fues i yma unwaith pan wnes i ymweld â'r eglwys gadeiriol.

Gorsaf Milton Keynes Central
Tref newydd arall - i'w hychwanegu at y Drenewydd a Telford - yr enwocaf o drefi newydd y Deyrnas Gyfunol. Daeth enw Milton Keynes yn ddihareb am ddatblygiad ar ôl yr ail ryfel byd yn union fel y daeth Slough yn ddiharheb am ddatblygiad rhwng y ddau ryfel. Dwi erioed wedi bod yma, ond hoffwn yn fawr iawn ymweld â'r eglwys ecwmeniadd, Crist y Gonglfaen lle mae cymaint o bethau cyffrous yn digwydd.

Gorsaf Euston
Ac o'r diwedd dyma gyrraedd Euston!